Elin Gwyn sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Derbynwyd saith drama, ond Gwagle aeth â hi i’r fyfyrwraig o Gylch Bangor Ogwen.
O Sling, ger Bethesda y daw Elin Gwyn, ac ers symud o Ysgol Dyffryn Ogwen i Brifysgol Caerdydd i astudio llenyddiaeth Saesneg, mae hi bellach yn ôl yn ei bro enedigol, ac yn astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Mae hi ar fin dod i derfyn blwyddyn gyntaf ei doethuriaeth dair blynedd yn y Gymraeg erbyn hyn, lle mae’n astudio cyfraniad diwylliannol y diwydiant llechi yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol, ac fel rhan o’r cwrs mae hi’n gweithio yn Yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.
Mae’r hynaf o bedair chwaer eisoes wedi ennill ei phlwyf wrth ysgrifennu mewn eisteddfodau lleol, ac yn gyn-enillydd ar Dlws Llên yr Ifanc a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
“Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yn gwylio a darllen dramâu,” meddai Elin Gwyn, sydd â’i bryd ar fynd ymlaen i sgriptio mwy yn y dyfodol.
“Mae ennill Y Fedal Ddrama yn sicr o roi hwb i mi barhau i ysgrifennu.”
Gwilym Dwyfor Parry, Aelod Unigol o Gaerdydd ddaeth yn ail, a Llŷr Titus, Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli, ddaeth yn drydydd.
Y beirniaid oedd Manon Eames a Tim Baker.