Joe Allen
Er ei fod yn lywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw, doedd dim son am y pêl-droediwr Joe Allen, yn dilyn buddugoliaeth fawr Abertawe ddydd Llun.
Roedd Joe Allen, 21, sy’n enedigol o Arberth yn Sir Benfro, ond a symudodd i fyw i Abertawe pan oedd yn 16 mlwydd oed,, wedi derbyn gwahoddiad y Pwyllgor Gwaith lleol i fod yn Llywydd y Dydd heddiw.
Doedd y chwaraewr canol cae ddim yn bresennol ar y maes, ond recordiodd neges ar gyfer y wasg yn esbonio ei absenoldeb.
“Yn anffodus, ni allaf fod yma heddiw oherwydd popeth sy’n mynd ymlaen ar ddiwedd y tymor â’r pêl droed,” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn “gwerthfawrogi” y cyfle i fod yn lywydd y dydd, a’i fod yn ddiolchgar iawn i’r Urdd am y profiadau a gafodd pan oedd yn ifanc a’i helpodd i ddatblygu fel pêl-droediwr proffesiynol.
“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r Eisteddfod i blant a phobl Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at weld fy ninas leol yn croesawu pobl o bob cwr o’r wlad. Rwy’n siŵr y bydd yn Eisteddfod i’w chofio,” meddai.
“Pan oeddwn i yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Arberth ac Ysgol Y Preseli rwy’n cofio teithio i Aberystwyth i gystadlu mewn pencampwriaethau pêl-droed.
“Roedden nhw wastad yn ddiwrnodiau roeddwn i’n edrych ymlaen atynt yn fawr. O ran fy ngyrfa roedd cymryd rhan mewn cystadlaethau fel hyn yn help enfawr i mi ddatblygu fel chwaraewr ac yn un o’r rhesymau pam fy mod i’n chwarae pêl-droed i’r safon yr ydw i heddiw.”
Dywedodd y chwaraewr sydd wedi chwarae i’r Elyrch dros 100 o weithiau ac wedi ennill dau gap yn chwarae dros ei wlad fod ganddo hefyd atgofion melys o fynd i aros yng ngwersyll Llangrannog pan oedd yn blentyn.