Eurig Salisbury
Cyhoeddwyd mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd heddiw mai Eurig Salisbury, o Aberystwyth, yw bardd plant newydd Cymru.

Bydd Eurig Salisbury’n cael tymor hwy na beirdd plant y gorffennol, gan ei fod wedi ei benodi am gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’n olynu, Dewi Pws, sydd wedi bod yn y swydd ers Eisteddfod yr Urdd Ceredigion y llynedd.

Dywedodd Eurig Salisbury wrth Golwg360 nad oedd ganddo “agenda mawr” ynglŷn â’r flwyddyn i ddod ac mai ei unig nod oedd sicrhau bod plant yn “cael hwyl wrth farddoni”

Yn ei waith bob dydd mae’n ymchwilio i farddoniaeth Gymraeg y Canol Oesoedd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Chletaidd yn Aberystwyth.

‘Plant yn elwa’

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, bod y traddodiad o benodi Bardd Plant Cymru “wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn”.

“Dros y blynyddoedd mae miloedd o blant ledled Cymru wedi elwa o gael mwynhau barddoni gyda beirdd gorau’r wlad,” meddai.

“Mae pob bardd hyd yn hyn wedi dweud  fod y flwyddyn yn hedfan, a’r gobaith drwy ymestyn y cyfnod yw y bydd yn gyfle i ddatblygu’r cynllun a chynnwys elfennau newydd.

“Dros y ddwy flynedd nesaf, yn ogystal ag ymweld ag ysgolion, bydd Eurig yn cynnal gweithgareddau fydd yn clymu mewn gydag ymgyrch Calon Cenedl S4C er enghraifft, a Chymunedau’n Darllen Cyngor Llyfrau Cymru.

“Bydd ymestyn ei gyfnod yn rhoi cyfle i fwy eto o blant gael blas ar farddoni gydag Eurig.”

‘Parhau â’r gwaith’

“Dw i eisiau parhau â gwaith y beirdd plant cynharach a bod yn onest,” meddai Eirug Salisbury wrth Golwg360.

“Dydw i ddim yn meddwl bod gen i unrhyw neges enfawr dw i eisiau rhoi i’r plant na ddim byd fel ’na. Sicrhau eu bod nhw’n cael hwyl wrth farddoni yw’r peth pwysig – mae mor syml â hynny.

“Dw i ddim eisiau iddyn nhw feddwl am farddoniaeth fel rhywbeth yn yr ysgol – neu rywbeth addysgol yn unig,  dim efo B fawr neu C fawr am ‘cerddi’ – ond fel rhywbeth y medran nhw joio.

“Mae’r syniad o gynghanedd yn tueddu i godi ofn ar ddisgyblion ysgol uwchradd, ac efallai na fydde disgyblion ysgol gynradd hyd yn oed yn gwybod amdano fe – doeddwn i ddim o gwbl. Doeddwn i ddim yn gwybod amdano fe nes oeddwn i tua 13 neu 14.

“Does ’na ddim rheswm yn y byd i beidio â’i ddefnyddio fe gyda phlant ysgol gynradd. Dw i’n gwybod eu bod nhw’n gallu’i bigo fe i fyny, yr un mor gyflym os nad yn gyflymach nac oedolion.

“Ella fod e ddim yn rhywbeth mae athrawon yn teimlo y maen nhw eisiau mynd ato yn syth bin.”

‘Guto’r Glyn’

“Dw i’n gobeithio y bydda i’n gallu defnyddio ambell i beth dw i’n gwneud yn fy ngwaith bob dydd sef golygu barddoniaeth yr oesoedd canol,” meddai.

“Mae ’na ambell i ddisgrifiad yn y Cerddi gan Guto’r Glyn y basa rhywun yn gallu’u ddeall heddiw. Mae’r disgrifiadau yn fyw iawn. Dw i’n credu y baswn i’n gallu defnyddio pethe fel’ na gyda nhw.

“Falle bydd e’n help fy mod i’n  gorfod edrych ar farddoniaeth mewn cyd-destun gwahanol. Dw i’n hanner teimlo y bydd syniadau ambell i un o’r plant yn fy ysgogi i.

“Dw i yn ffeindio bod yng nghwmni plant yn gorfodi rhywun i feddwl mewn ffordd wahanol a ma’ hynny yn help”.