Sophie Baggott
Sophie Baggott, o Ysgol Uwchradd Caerdydd, sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Magwyd Sophie yng Nghaerdydd, ac mae hi’n gobeithio mynd i Rydychen yn yr hydref i astudio’r Clasuron.
“Rydw i wedi mwynhau bywyd yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, lle ges i gyfle arbennig i ddysgu Cymraeg,” meddai.
“Dim ond tipyn bach o Gymraeg oeddwn i wedi ei ddysgu yn yr ysgol gynradd. A dysgais i drwy gydol yr ysgol uwchradd hefyd. Ond, yn y chweched dosbarth dysgais i’r rhan fwyaf.
“Rydw i’n siarad y Gymraeg yn fy ngwersi wrth gwrs, ond ddim llawer llawer y tu allan i’r ysgol. Mae gen i ffrindiau yn y dosbarth Cymraeg. Mae chwech ohonom ni a does dim ffrindiau eraill sy’n siarad yr iaith, neu unrhyw aelodau o’r teulu. Felly, does dim llawer o gyfle gen i.
“Rydw i’n hoff iawn o ieithoedd a’r cyfleoedd a gynigir ganddynt. Yn arbennig, rydw i wrth fy modd yn teithio – o’r teithiau blynyddol i Langrannog i’r mis dreuliais yn crwydro o amgylch Gwlad Thai gyda fy ysgol.
“Hoffwn i siarad Sbaeneg. BDw i’n hoffi Sbaen – dw i’n mynd ynoyn yr haf gyda fy ffrindiau.
“Hoffwn fod yn ysgrifennwr yn y dyfodol – efallai newyddiadurwr neu awdur. Y llynedd roeddwn i’n falch iawn i ennill yr wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion am Ysgrifennu Rhyddiaith i Ddysgwyr.”
Y dasg oedd ysgrifennu tri darn o waith, yn ogystal â pharatoi tâp o sgwrs naturiol sy’n
cynnwys cyfeiriadau at gefndir y cystadleuydd. Cyfwelwyd y goreuon mewn rownd derfynol.
Y beirniaid oedd Elin Meek a Nia Parry a dywedodd y ddwy eu bod nhw wedi eu plesio’n fawr gan safon y gystadleuaeth.
“Cyflwynodd Sophie lythyrau, erthygl ac ysgrif. Roedd y tri llythyr dyfeisgar yn dangos ychydig o hynt a helynt y Gymraeg dros y ganrif a hanner diwethaf,” medden nhw.
“Rhyddid gwleidyddol oedd testun yr erthygl hynod gyfoes oedd yn dangos ôl aeddfedrwydd mawr. Yn yr ysgrif, roedd dau linyn yn cydblethu’n hyfryd, sef hanes pyllau glo Cymru a hanes glowyr Chile. “.
Daniel Nicol o Ysgol Uwchradd Caerdydd ddaeth yn ail a Angharad Thomas o Ysgol Howell, Caerdydd yn drydydd.
Rhoddir y fedal eleni gan Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe.