Neuadd Dewi Sant
Mae pryderon ynglŷn â diogelwch perfformwyr yn un o brif neuaddau Cymru, ar ôl i aelod o’r gynulleidfa lwyddo i ddringo ar y llwyfan.
Bu’n rhaid i’r pianydd Chineaidd enwog Lang Lang ffoi o’r llwyfan yng Nghaerdydd ar ôl i aelod o’r gynulleidfa lwyddo dringo i fyny ato.
Llwyddodd y dyn sydd heb ei enwi i ddringo i’r llwyfan yn ystod perfformiad yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Sul.
Ceisiodd gyflwyno tusw o flodau i’r pianydd, a chael sgwrs ag ef.
Ond gwrthododd Lang Lang â derbyn y blodau gan y gŵr sydd, mae’n debyg, hefyd yn hanu o China, a cherddodd oddi ar y llwyfan, a gwrthod gwneud encore.
Yn ôl un oedd yn y gynulleidfa ar y pryd, ceisiodd aelod o staff o ochr y llwyfan fynd i’w symud, ond methu, a dechreuodd y gŵr weiddi at weddill y gynulleidfa, cyn gwneud arwydd ‘T’ gyda’i ddwylo.
“Dydw i erioed wedi clywed bwio na chlapio araf yn Neuadd Dewi Sant o’r blaen,” meddai’r gwyliwr, sy’n gofyn lle’r oedd y staff diogelwch yn ystod hyn i gyd.
Mae rhai yn credu mai’r rheswm yr aeth y dyn i fyny i’r llwyfan oedd er mwyn holi’r pianydd i berfformio caneuon gwleidyddol Chineaidd i’r gynulleidfa, gan gynnwys rhai gwleidyddol sensitif yn gysylltiedig â chyflafan Sgwâr Tiananmen ym 1989.
Cafodd y dyn ei dywys oddi ar y llwyfan yn y diwedd, wedi i rai o staff y neuadd ddod i fyny i’w nôl.
Mae Neuadd Dewi Sant yn llwyfan i nifer o wyliau pwysig, gan gynnwys BBC Canwr y Byd 2011, a Phroms Cymru Caerdydd.