Lowri Morgan
Mae llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw wedi dweud mai “trio popeth” yw ei chyngor i bobol ifanc sydd eisiau llwyddo ym myd chwaraeon.

Mae Lowri Morgan wedi rhoi tro ar gystadleuaeth ffitrwydd Ironman ac ymysg yr 80 o bobl sydd wedi gweld gweddillion y Titanic.

Yn 2009, fe wynebodd ras 222km ar draws jwngl yr Amazon ar gyfer cyfres newydd Ras yn Erbyn Amser ar S4C. Ac eleni, gorffennodd ras eithafol 350 milltir y 6633 Ultra yn yr Artig, chweched person yn y byd i wneud hynny.

Merch o Dre-gŵyr, Abertawe, yw Lowri ac fe fynychodd Ysgol Gynradd Bryn y Môr ac Ysgolion Cyfun Gŵyr ac Ystalyfera.

Yn ogystal â’i doniau yn y maes ffitrwydd mae hi hefyd yn gerddorol ac fe raddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gan arbenigo ar y llais.

“Cantores glasurol oeddwn i eisiau bod tan oeddwn i yn fy ugeiniau cynnar ac roedd chwaraeon oedd yn eilradd i hynny, ond mae’r peth wedi troi rownd,” meddai.

“Ond ‘dw i ddim yn difaru dim. Dw i ’di cael tair blynedd fwyaf poenus fy mywyd i yn feddyliol a chorfforol ac eto dyma dair blynedd gorau fy mywyd i,” meddai.

Dywedodd fod y profiad o gystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn dysgu’r un gwesri i blant ifanc a chystadlu ym myd y campau.

“Dy ni ddim yn arbenigwyr ym mhob maes ond mae’n braf gallu trio ac os y ni’n ffili, mae methiant yn beth da achos mae’n dysgu ni mai gwaith caled a dyfalbarhau yw’r ffordd drwyddo. Dw i’n gredwr mawr yn hynny,” meddai Lowri Morgan wrth Golwg360.

“Dw i hefyd yn credu bod peidio cyrraedd y llwyfan weithiau neu beidio cyrraedd y ffeinal yn codi chwant arnoch chi i weithio’n galetach ar gyfer y flwyddyn nesaf. A hefyd i ddysgu chi mae rhoi tro arni sy’n bwysig ar ddiwedd y dydd.

“Dw i’n annog pawb i jest trio popeth. Dydych chi byth yn gwybod beth sy yn y dyfodol.”

Yr Urdd

Dywedodd mai cystadlu er mwyn prifi rywbeth i’ch hunain sy’n bwysig ar lwyfan yr Eisteddfod, yn hytrach na cheisio pleisio unrhyw un arall.

“Ar ôl cael cefnogaeth frwd yn yr Ysgol Sul yn Nhre-gŵyr fe ges i fy annog i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a chael fy mhrofiad cyntaf o berfformio mewn pafiliwn enfawr o flaen cynulleidfa fawr,” meddai.

“ Yn naw mlwydd oed fe brofais fy llwyddiant cyntaf gan ennill ar yr unawd dan ddeuddeg yn Eisteddfod Yr Urdd Aberafan 1983. Wedi hynny fe es i ymlaen i gael llwyddiant ar y cystadlaethau canu gwerin, canu unigol a hefyd ar lefaru. Fe wnes i hefyd ennill y ras traws gwlad yn genedlaethol a’r gystadleuaeth athletau gyda’r Urdd.

“Fe gefais lwyddiant, do, ac fe ddaeth hynny drwy ymarfer yn galed a dyfalbarhau. Ond fe fethais sawl gwaith hefyd.

“Mae pawb yn rhoi cymaint ohono’i hun wrth ganu, dawnsio, cyfansoddi, arlunio neu gystadlu ar y meysydd chwaraeon a’r wobr yw’r boddhad o allu cyflawni nod bersonol.”

Iaith

Wrth siarad am ei sialens yn yr Arctig, fe ddywedodd ei bod yn siarad â’i chyd-gystadleuwyr a’r bobol frodorol am “ei hiaith” ac am eu “hiaith nhw.”

“Yn hytrach na jest rhoi’r gwely mas i gysgu bob nos ro’ ni’n siarad gyda nhw ac yn gofyn pethe wrthyn nhw am eu hiaith ac yn dweud wrthyn nhw am fy iaith i,” meddai.

“Roeddwn i’n teimlo jest yr un  mor angerddol yn siarad am fy iaith i a beth oeddwn i’n dysgu am eu hiaith nhw,” meddai.