Tudur Hallam
Bydd cyfle i ddarpar feirdd ifanc yr Eisteddfod gael gweithdy barddoniaeth gyda’r Prifardd lleol Tudur Hallam eleni.
Dyna un o uchafbwyntiau’r arlwy’r Cwtsh Cymraeg, sydd yn ôl ar y maes ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd, Ceredigion.
Mae’r arlwy yn cynnwys gweithdai gyda rhai o Brifeirdd amlycaf Cymru, darlleniadau gan awduron amlwg a stomp i feirdd ifanc.
Trefnwyd y Cwtsh ar y cyd rhwng Pwyllgor Llenyddiaeth a Phwyllgor Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd.
“Mae’r Cwtsh yn ardal wych i gael cyflwyno barddoniaeth a llenyddiaeth i blant a phobl ifanc mewn awyrgylch braf, sydd ymhell o gatiau’r ysgol. Y gobaith yw y byddant yn eu gweld yn rhywbeth hwyliog ac efallai yn ymddiddori ymhellach yn y maes,” medd Meinir Jones, Ysgrifennydd y Pwyllgor Llenyddiaeth.
Dywedodd Tudur Hallam, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, ei fod yn “gefnogol iawn i’r Cwtsh Cymraeg ac yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r gweithgareddau eleni”.
“Mae’n wych o beth fod plant a phobl ifanc yn gallu dod i’r Maes a manteisio ar bob math o brofiadau ac mae’n braf fod gweithdai barddoni yn un o’r atyniadau sydd ar gael eleni.”
Yr Urdd yn rhoi llwyfan i blantos Abertawe
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cynnig llwyfan newydd i ddisgyblion ysgolion cynradd lleol ddangos eu doniau ar y maes eleni.
Bob bore, bydd Llwyfan Perfformio Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi cyfle i ddisgyblion o ysgolion yr ardal ddiddanu Eisteddfodwyr ar ffurf canu, dawnsio neu unrhyw gelfyddyd weledol arall.
Un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan yw Ysgol Gynradd Dynfant, sy’n perfformio bore heddiw (Mawrth) am 11 o’r gloch.
“Mae’r plant wedi cyffroi ac yn edrych ymlaen yn fawr at rannu beth maen nhw wedi ei ddysgu efo’r gymuned Gymraeg, drwy’r cyfle gwych yma yn yr Eisteddfod. Mae gennym ni grŵp dawns a rhai unigolion yn chwarae offerynnau cerdd,” meddai’r Brifathrawes, Rebecca Nia Griffiths.
Noddir y perfformiadau gan gwrs ‘Beginners Welsh’ y Brifysgol Agored. Dywed Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, ei fod yn berffaith ar gyfer rhieni sydd am ddysgu’r iaith er mwyn cefnogi gwaith cartref eu plant neu ddatblygu sgil newydd ar gyfer y gweithle.
“Mae adnoddau am ddim o’r cwrs ar gael ar iTunes U, neu ymwelwch â’r Brifysgol Agored ar y Maes,” meddai.
Yr Urdd yn taclo Rygbi 7 bob ochr
Mae’r Urdd ac Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyfleon rygbi 7 bob ochr i blant a phobl ifanc, gan ddechrau ym mis Medi.
Nod y cynllun fydd gwella ymhellach sgiliau chwaraewyr ifanc, niferoedd sy’n cymryd rhan, sefydlu cystadlaethau newydd, a chydweithio i ddatblygu rygbi 7 bob ochr yn y gymuned.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru em eu cefnogaeth,” meddai Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru.
“Mae rygbi 7 bob ochr yn boblogaidd ymhlith bechgyn a merched, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddefnyddio arbenigedd yr Urdd ac Undeb Rygbi Cymru i ehangu ein darpariaeth yn y maes yma.”
Dywedodd Jason Lewis, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru, eu bod nhw’n “rhannu’r un athroniaeth ar ddatblygiad pobl ifanc, ac mae’r bartneriaeth yma yn un gyffrous iawn yn uno profiad yr Urdd gyda phobl ifanc a’n harbenigedd ni ym maes rygbi 7 bob ochr, er mwyn datblygu ymhellach chwaraewyr rygbi ifanc Cymru.”
Cwrs Pêl-droed yr Elyrch
Dywedodd yr Urdd eu bod nhw’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Elyrch yn sgil eu llwyddiant yn stadiwm Wembley ddoe.
Bydd Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn cydweithio gyda’r clwb i gyflwyno Cwrs Pêl-droed yr Elyrch yn ystod hanner tymor yr hydref.
Bydd y cwrs ar gyfer plant 8 – 12 oed o bob cwr o Gymru, ac yn gyfle iddynt ddatblygu sgiliau o dan hyfforddwyr profiadol.
Dywedodd Linden Jones, Rheolwr Pêl-droed yn y Gymuned Abertawe, ei fod yn annog pobl ifanc boed yn ferched neu fechgyn i ddod i gwrs Pêl-droed yr Elyrch.
“Mae yna buzz mawr yn y gymuned bêl-droed ar hyd rhanbarth y De-Orllewin ar y funud, gyda’r Uwch Gynghrair yn dod i Gymru! Mae’n amser grêt i ddechrau dilyn Clwb Pêl-droed Abertawe,” meddai.