Bydd yr Urdd yn casglu barn pobl ifanc dros yr haf am yr iaith Gymraeg a’u defnydd ohoni.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith ym mis Mawrth, sy’n cynnwys ymrwymiad i wahodd yr Urdd i’w cynghori ynghylch dyheadau pobl ifanc o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg. 

Fe fydd yr Urdd yn cynnal sesiynau dros yr haf gyda phobl ifanc gan holi eu barn am y ddarpariaeth Gymraeg yn eu hardal a gofyn iddyn nhw ble maen nhw’n defnyddio’r Gymraeg ar hyn o bryd. 

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

 “Ry’n ni’n falch iawn o gael y cyfle yma i sicrhau bod barn pobl ifanc am eu Cymreictod yn cael ei glywed gan y Llywodraeth, gan obeithio y bydd hynny’n cynorthwyo’r broses o gynllunio bod darpariaeth dda ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc, lle bynnag y maen nhw’n byw.”

 Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Dros Addysg a Sgiliau:

 “Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bywiogrwydd a hir hoedledd yr iaith Gymraeg,  Mae mesur barn pobl ifanc yn rhan bwysig o hyn, achos nhw fydd yn sicrhau dyfodol yr iaith.

 “Mae gwaith da yr Urdd yn adnabyddus, yn arbennig wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg i bobl ifanc, a rwy’n edrych mlaen i glywed casgliadau’r prosiect yma.”