Merch o Bontarddulais yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Mae Catrin Nia Thomas yn 17 oed, ac mae ganddi flwyddyn arall ar ôl yn Ysgol Gyfun Gŵyr, lle mae’n astudio Celf, Cymraeg, Hanes a Dylunio a Thechnoleg. Mae hi’n gobeithio mynd i’r brifysgol er mwyn astudio Celf a Thecstilau.
Mae’r Fedal yn cael ei chyflwyno am yr eitem orau yn yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg o dan 18 oed, ac mae gwaith buddugol Catrin wedi ei seilio ar uned o waith Hanes a wnaeth y llynedd.
“Yn y gwersi Hanes aethom i’r afael ag effaith yr Holocaust ar fywydau pobl gyffredin,” meddai.
“Fe ges gyfle i brofi naws ac erchylltra’r Holocaust pan ymwelais ag Auschwitz a phrofi awyrgylch iasol y lle drosof fy hun. Dwi’n bendant yn gwybod i hyn fy sbarduno yn fawr iawn ac i’r profiad roi mwy o ddyfnder ac emosiwn i’r gwaith.”
Rhoddir y Fedal Gelf eleni gan Gylch Cinio Cymraeg Abertawe.