Enillydd ysgoloriaeth Gelf Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd eleni yw Llio James, Aelod Unigol o Gaerdydd. 

Daw Llio o Dalybont ger Aberystwyth yn wreiddiol, ac mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig.  Fe ddaeth Llio i’r brig ar ôl proses o gyfweld rhestr fer o ymgeiswyr, yn dilyn y beirniadu cenedlaethol celf, dylunio a thechnoleg adeg y Pasg.

Mae’r ysgoloriaeth £2,000 yn cael ei chyflwyno drwy Dr Dewi Davies a’i deulu am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 a 25 blwydd oed.

 “Mae ennill yr ysgoloriaeth yma’n  enfawr. Rydw i’n  gobeithio mynd ymlaen i wneud cwrs MA yn Bath mis Hydref,” meddai  Llio James wrth Golwg360.

“Mae pawb yn gwybod ei bod hi’n ddrud i fynd ymlaen i’r coleg. Felly mae hwn yn hwb enfawr i fi bod fi eisiau parhau … hefyd mae’n bwysau oddi ar fy ysgwyddau bod hwn yn gallu talu am dros hanner o fy ffioedd dysgu i,” meddai wrth Golwg360.

Fe enillodd Llio James radd dosbarth cyntaf mewn Tecstilau o Brifysgol Fetropolitan Manceinion ym mis Mehefin 2009. Treuliodd gyfnod o dri mis yn 2010 yn gweithio i gwmni tecstilau yn Efrog Newydd.

Ers hynny, mae wedi cael cyfnod o weithio mewn melin wlân yn y Gwŷr, Abertawe, cyn symud ymlaen i dreulio mis gyda chwmni Melin Tregwynt.  Ei bwriad yw cychwyn cwrs M.A. mewn tecstilau ym mhrifysgol Caerfaddon fis Medi 2011.

Uchafbwynt

Fe ddisgrifiodd ennill yr ysgoloriaeth fel “uchafbwynt” ei gyrfa hyd yn hyn.

“Hyd yn oed taswn i heb ennill, baswn i’n fwy na hapus cael arddangos fy ngwaith yma. Mae’r cyfle i arddangos gwaith yn sbarduno ti hefyd,” meddai.

Y môr yw un o’r pethau sy’n ei hysbrydoli.“Fi’n credu bod y môr yn rhoi lot o syniadau i fi. Mae  lliwiau’r môr a lliwiau’r awyr yn anhygoel…Pan fi’n cynllunio defnydd ma’ na lot o siapau sy’n fy ysbrydoli yn y môr …” meddai Llio James sydd heb gystadlu yn yr Urdd o’r blaen. 

Yn y dyfodol, fe ddywedodd y byddai’n “caru cynhyrchu defnydd a gwehyddu gyda llaw”.

“… ond mae’n broses hir a drud. Dw i’n gobeithio cadw rhyw fath gydbwysedd…  o greu defnydd efo llaw ond hefyd defnyddio’r melinau sydd gennym ni yng Nghymru i gynhyrchu defnydd wrth y metr. A bod pobl yn gallu prynu fe wrth y metr a chreu beth bynnag maen nhw eisiau hefo fo.”

 “Mae gan Llio dalent ragorol, ac mae dyfnder a rigour i’w gwaith.  Mae ei gwaith o safon uchel iawn.  Gallai ei gwaith gael ei fframio a’i werthu’n syth fel darnau o gelf.  Byddai’n gwneud llysgennad arbennig dros gelf yng Nghymru,” meddai’r beirniaid Seiriol Evans a Carolyn Davies.