Mared Emlyn
Arbenigwraig ar y delyn yw enillydd y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dywedodd Mared Emlyn o Aelwyd Llanrwst wrth Golwg360 mai ei brawd hŷn yn cyfansoddi yw un o’r rhesymau y dechreuodd hithau wneud yr un peth.
Fe gafodd ei magu yn Llangernyw ond erbyn hyn mae’r teulu yn byw yn Eglwys Bach yn nyffryn Conwy.
Cafodd ei haddysg yn ysgolion Bro Cernyw a Dyffryn Conwy, cyn mynd i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Graddiodd yn 2009 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Derbyniodd Ysgoloriaeth KESS drwy gydweithrediad â Chwmni Cyhoeddi Gwynn i ddilyn cwrs doethuriaeth mewn perfformio telyn a chyfansoddi ym Mangor.
‘Crefft a chyflwyniad’
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Einon Dafydd ac Eric Jones, a meddent am waith Mared i’r delyn:“Cyfansoddiad gorffenedig… sy’n arddangos cymhelliad, crefft a chyflwyniad canmoladwy. Mae’r cyfanwaith, sef cyfres o ddawnsfeydd – Perlau yn y Glaw – wedi ei saernïo’n ofalus a chrefftus… Credwn y gallai’r darnau hyn fynd i’r wasg yn eu cyflwr presennol ac y bydden nhw’n gyfraniad gwerthfawr i repertoire y delyn.”
Aled Wyn Clark, Aelod Unigol o Ddinbych ddaeth yn ail a Tim Harrison, Aelod Unigol o Gylch Castell Nedd ac Afan yn drydydd. Roedd y fedal yn cael ei rhoi eleni gan Gorau a Band Pontarddulais.
‘Byr bywiog’
“Ro’n ni eisiau creu darnau byr bywiog,” meddai Mared Emlyn cyn egluro bod pum darn i gyd.
“Yng Nghymru, mae’r delyn yn boblogaidd a dw i’n gwybod bod angen darnau cyfoes ar gyfer y delyn er mwyn adeiladu repertoire.
“Dw i’n licio darnau rhythmig hefo ychydig o ‘off beat’ ynddyn nhw. Dw i’n hoffi gwrando ar Prokofiev ac yn hoffi gwrando fwyaf ar hyn o bryd ar gerddoriaeth ffilm. Cerddoriaeth pobl fel John Williams neu rywun gydag alawon gwych.
“Dw i’n meddwl y gwnes i ddechrau’ cyfansoddi pan wnaeth Rhun fy mrawd ddechrau cyfansoddi pan oedd o yn blwyddyn 9 yn yr ysgol. Mae o dair blynedd yn hyn na fi a ro’ ni eisiau ei gopïo fo dw i’n meddwl …
“Ar gyfer y darn yma, fe wnes i eistedd wrth y delyn yn gwybod mod i isio cyfansoddi ar gyfer y delyn a chael sketchbook manuscript a dechrau gwneud nodiadau na fydda neb arall yn ei ddeall ac wedyn mynd ati i’w roi o ar y cyfrifiadur.”