Protest gan Gymdeithas yr Iaith i geisio atal toriadau S4C (Llun: Y Gymdeithas)
Mae un o ffigurau mwya’ profiadol y byd darlledu wedi rhybuddio y gallai S4C a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru wynebu toriadau pellach, os na fydd system newydd o ariannu’n cael ei chreu.
Yr ateb y mae’n ei gynnig yw bod arian S4C yn dod, nid gan y BBC neu oddi ar y drwydded deledu, ond trwy lefi ar y gwasanaeth teledu digidol BSkyB.
Mae Geraint Talfan Davies – sy’n gyn uwch reolwr gyda’r BBC ac ITV – yn gweld peryg mawr yn codi o adroddiad gan y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn hwnnw, mae’r Aelodau Seneddol yn dweud bod gan y BBC ymrwymiad i drin holl genhedloedd y Deyrnas Unedig yn gyfartal.
Os felly – ac os bydd S4C yn mynd dan adain y BBC – dim ond un canlyniad fyddai, meddai Geraint Talfan Davies: toriadau pellach i S4C neu BBC Wales, neu’r ddau.
‘Chwalu gwasanaethau’
Wrth sgrifennu yn adran Click on Wales ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae hefyd yn rhybuddio am ganlyniadau toriadau gwario’r BBC ei hun.
Gyda chwyddiant, mae’n amcangyfri y bydd rhaid i’r BBC wneud toriadau pellach o 20% ac fe fyddai toriadau o’r fath yn “chwalu gwasanaethau BBC Cymru”.
Byddai llai o raglenni Cymreig ar BBC 1 neu BBC 2, meddai, a fyddai’r gwasanaethau radio – Radio Cymru a Radio Wales – ddim yn gallu cynnal y genhadaeth genedlaethol sydd ganddyn nhw.
Mae yna ddadl fawr yn digwydd ar hyn o bryd ynglŷn â pherthynas y BBC ac S4C – mae’r sianel yn mynnu ei bod eisiau cadw’i hannibyniaeth ond mae Ymddiriedolaeth y BBC yn mynnu y bydd ganddi rôl yn goruchwylio’r sianel a’i bod yn dal i reoli’r arian sy’n mynd i S4C.
Mae’r BBC yn ceisio osgoi’r syniad fod peth o arian y drwydded yn cael ei gymryd oddi arni a’i roi i gorff arall, heb ei rheolaeth hi – fe allai hynny greu cynsail at y dyfodol.
Lefi ar BSkyB
Ond mae Geraint Talfan Davies yn cynnig dewis arall. “Yr ateb tecach,” meddai, “fyddai mai lefi ar BSkyB yw’r pris am adael i News International ei brynu yn ei gyfanrwydd – pris bach am y fath reolaeth tros y farchnad.”
Mae’r erthygl lawn fan hyn.