Sherlock
Mae drama deledu sydd wedi ei chynhyrchu’n rhannol yng Nghaerdydd wedi cipio dwy o wobrau BAFTA gwledydd Prydain.

Y cyfarwyddwr Cymraeg, Euros Lyn, oedd yn gyfrifol am un o dair pennod y gyfres Sherlock sydd wedi ei seilio ar straeon Syr Arthur Conan Doyle am y ditectif Sherlock Holmes.

Er mai cwmni annibynnol o Loegr sydd y tu cefn i’r gyfres, roedden nhw’n gweithio gyda staff cynhyrchu o BBC Cymru hefyd ac fe wnaed peth o’r ffilmio yng Nghymru.

Fe lwyddodd y gyfres i ennill y wobr am y Gyfres Ddrama Orau ac fe gafodd Martin Freeman wobr am yr Actor Cynorthwyol gorau am ei waith yn actio Doctor Watson, cynorthwy-ydd y ditectif mawr.

Er hynny, doedd yna ddim gwobr i Benedict Cumberbatch sy’n actio Holmes, na chwaith i’r gyfres Dr Who, sydd hefyd yn cael ei gwneud yng Nghaerdydd.