Canol tref Wrecsam (llun y cyngor)
Mae pobol Wrecsam ymysg y mwyaf boneddigaidd ym Mhrydain, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.
Ond mae Aberystwyth yn agos at waelod y pentwr, meddai cwmni yswiriant ceir AXA.
Roedd y pôl piniwn wedi holi trigolion lleol a oedd pobol a gyrwyr yn trin ei gilydd mewn modd parchus yno.
Rhydychen a Caergrawnt yw’r ddau le mwyaf parchus, yn ôl yr arolwg. Mae Wrecsam yn y pedwerydd safle, fydd yn newyddion da i’r rheini sy’n bwriadu gyrru yno ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Mae Aberystwyth yn ddegfed o waelod y pentwr. Aberdeen, Belffast a Glasgow yw’r llefydd lleiaf boneddigaidd.
Dim ond 2% o yrrwyr Cambridge fyddai’n codi un neu ddau fys ar yrrwr arall, ac fe fyddai 92% yn codi i gynnig lle i berson oedrannus eistedd.
Roedd mwy na 92% o bobol Aberdeen yn dweud eu bod nhw wedi eu hamharchu gan yrwyr eraill yn y ddinas, ac roedd 10% yn cyfaddef eu bod nhw’n defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.
“Mae pawb yn hoffi meddwl eu bod nhw’n bobol foneddigaidd ond mae gan bawb eu beiau,” meddai Amanda Edwards o AXA.
“Mae angen adnabod yr arferion drwg yr ydyn ni’n eu meithrin wrth yrru a’u cywiro nhw.
“Mae gyrru sy’n dangos diffyg parch at eraill yn gallu achosi damweiniau – rhaid marwol, yn anffodus.”
Y llefydd mwyaf boneddigaidd:
1. Rhydychen
2. Caergrawnt
3. Caerloyw
4. Wrecsam
5. Plymouth
6. Southampton
7. Norwich
9. Caeredin
10. Bristol
Y llefydd lleiaf boneddigaidd:
1. Aberdeen
2. Belffast
3. Glasgow
4. Wolverhampton
5. Chelmsford
6. Lerpwl
7. Caerlŷr
8. Llundain
9. Portsmouth
10. Aberystwyth