Llysoedd Aberhonddu
Mae dyn 24 oed o Birmingham wedi ymddangos o flaen llys ynadon yn Aberhonddu wedi ei gyhuddo o ladrad arfog ym Machynlleth.
Cafodd Micquel Daniel France ei arestio mewn cysylltiad â lladrad wrth fynedfa Banc Barclays pan gafodd arian ei gymryd oddi ar swyddog diogelwch a oedd yn gweithio i gwmni preifat.
Mae’r heddlu hefyd wedi dod o hyd i’r “swm sylweddol” o arian a gafodd ei ddwyn – roedd wedi ei adael mewn cae ger Y Trallwng.
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am ddau ddyn gwyn sydd hefyd yn cael eu hamau o fod yn rhan o’r drosedd.