Dina Thomas (llun yr heddlu)
Mae Heddlu De Cymru wedi galw am wybodaeth am ferch 14 oed o’r Rhondda sydd wedi diflannu.

Cafodd Dina Thomas o Borth ei gweld am y tro olaf am 8.30pm ar ddydd Iau, 19 Mai.

Y gred yw ei bod hi dal yn ne Cymru. Dywedodd yr heddlu ei bod hi’n ddynes croenwyn, 5 troedfedd 3 modfedd, gyda llygaid brown, a gwallt du â stribedi coch ynddo.

Mae ganddi acen Gymreig, a chraith ar ochor dde ei abdomen ar ôl tynnu ei phendics.

Roedd hi’n gwisgo crys-t glas, jîns tywyll, a trainers pink pan aeth ar goll o Borth, y Rhondda.

Dylai unrhyw un sydd wedi ei gweld hi neu yn gwybod lle y mae hi ffonio Heddlu De Cymru ar 01656 655555.