Mae bachgen wyth oed wedi ei hedfan i ysbyty yng Nghaerdydd ar ôl iddo gael ei anafu mewn gwrthdrawiad car yng Ngheredigion.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y ddamwain wedi digwydd ar y B4338 yn Drefach ger Llanybydder am 4pm ddydd Gwener.

Aethpwyd a’r bachgen i ysbyty Glangwili yn Sir Gaerfyrddin cyn iddo gael ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae’r heddlu wedi galw ar unrhyw un a welodd y ddamwain i ffonio 101.