Mae’r cwmni gafodd ei sefydlu i gyhoeddi papur dyddiol Cymraeg yn dod i ben.

Y disgwyl yw y bydd y cwmni oedd wedi gobeithio cyhoeddi papur dyddiol Y Byd yn dod i ben ymhen blwyddyn i 18 mis.

Ers methu perswadio’r Llywodraeth Glymblaid Llafur-Plaid Cymru yn y Cynulliad i fuddsoddi mewn papur dyddiol Cymraeg nôl yn 2008, roedd Dyddiol Cyf wedi parhau ‘yn gwmni papur newydd…[yn] gwneud gwaith paratoadol fyddai’n arwain at gyhoeddi petai’r amgylchiadau economaidd yn caniatau’.

Ond mewn llythyr at gyfranddalwyr ddoe roedd y Cadeirydd Ned Thomas yn rhoi gwybod bod aelodau’r Bwrdd Rheoli wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi.

Mae gan y cwmni £123, 468 yn y banc, ac mi fyddan nhw’n gwerthu’r llun gan Kyffin Williams oedd yn rodd at yr achos.

Gall y rhai hynny wnaeth dalu £500 am gyfranddaliad yn Dyddiol Cyf ddisgwyl £200 yn ôl.

‘Ymhen blwyddyn neu blwyddyn a hanner ni fydd gan aelodau’r Bwrdd presennol unrhyw gynllun i’w osod o flaen y cyfranddalwyr heblaw cau’r cwmni ond, fel sy’n ofynnol, y cyfranddalwyr fydd yn penderfynu drwy bleidlais bost, a bydd ganddynt gyfle, bryd hynny, i gynnig llwybr arall ac ethol Bwrdd arall,” meddai Ned Thomas yn ei lythyr i’r cyfranddalwyr.

“Digwyddiadau chwerw 2008”

Bu dipyn o helbul dair blynedd yn ôl pan wnaeth y Glymblaid Llafur-Plaid Cymru benderfynu peidio ariannu papur dyddiol Cymraeg, gyda nifer o gefnogwyr y Blaid yn flin gyda’r Gweinidog Diwylliant ar y pryd, Rhodri Glyn Thomas, am gyhoeddi y byddai £600,000 ar gael dros dair blynedd i gyflwyno newyddion yn Gymraeg ar y We.

Roedd cefnogwyr Y Byd yn cyhuddo’r gwleidyddion o gefnu ar addewid i gefnogi papur newydd dyddiol Cymraeg.

Ym Mai 2008 cwmni Golwg gafodd yr arian a’r gwaith o sefydlu’r hyn sy’n cael ei adnabod yn Golwg360 heddiw.

Wrth gloi ei lythyr, mae Ned Thomas yn dal i fynnu bod angen papur newydd dyddiol yn Gymraeg.

“Nid wyf yn gweld penderfyniad ein cwmni ni i roi heibio’r bwriad o sefydlu papur newydd yn gyfystyr â rhoi heibio’r uchelgais gymdeithasol ehangach i gael papur dyddio yn Gymraeg.

“Mae’n bosibl, hyd yn oed, y daw hi’n haws ail-godi’r weledigaeth dan enw arall ac yn rhydd o’r atgof chwerw am ddigwyddiadau Chwefror 2008.”