Mae pensiynwr o Wynedd yn fodlon mynd i’r carchar er mwyn tynnu sylw at yr hyn mae’n ei weld fel gormod o Saesneg ar Radio Cymru.

Flwyddyn ers iddo wrthod talu ei drwydded deledu a chael gorchymyn i dalu dirwy a chostau llys o £395 yn Llys Ynadon Caernarfon, mae Geraint Jones unwaith eto’n wynebu’r fainc yn Llys Ynadon Dolgellau ymhen llai nag wythnos.

Mae’r aelod Cylch yr Iaith wedi mynnu wrth ei ffrindiau nad yw eisiau i unrhyw un dalu’r ddirwy drosto. Mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol.

Wedi iddo wrthod gadael i ddau feili fynd ag eiddo o’i gartre’ – oherwydd ei fod am gael tyst yn bresennol – mae Geraint Jones yn disgwyl cael ei garcharu y tro hwn.

“Rydw i’n fodlon wynebu beth sy’n dod…er, mae’n gywilydd o beth fod rhywun yn cael carchar am garu’r iaith,” meddai’r pensiynwr o Drefor yng Ngwynedd wrth Golwg360.

“Dydw i ddim eisiau i neb dalu’r ddirwy  – neu mi fuaswn i’n gwneud fy hun,” meddai gan bwysleisio bod dwy ran i’w safiad – protest yn erbyn y defnydd o’r Saesneg ar Radio Cymru; ac i ddangos ei fod yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros annibyniaeth S4C.

Roedd Geraint Jones yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y 1960au cynnar.

Llai yn gwrando oherwydd Seisnigo?

Roedd 9,000 yn llai o bobl yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn hon, o gymharu gyda thri mis ola’ 2010.

Ac yn ôl Cylch yr Iaith, mae’r orsaf wedi troi ei chefn ar ei chynulleidfa graidd.

“Ryda ni o’r farn ers blynyddoedd bod y Seisnigo yn golygu bod Radio Cymru yn colli gwrandawyr. Mae angen cymryd sylw o’r cwyno,” meddai Elfed Roberts, Cadeirydd Cylch yr Iaith.

Ond does dim lle i boeni’n ormodol am ostyngiad yn y nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru, yn ôl Dr Llion Iwan o Adran Diwydiannau Creadigol Prifysgol Bangor, sy’n dweud bod ffigyrau yn bownd o amrywio.

“Tydi hyn yn ddim byd newydd, mae ffigyrau gwrando Radio Cymru yn codi ac yn disgyn rhyw ychydig,” meddai.

“Os basa nhw wedi disgyn yn sylweddol, rhywbeth fel tua 25%, fysa ganddyn nhw le i boeni.

“Ond tydi’r cwymp ddim yn rhywbeth syfrdanol. Dyma’r patrwm, ti’n mynd i gael cyfnod da a chyfnod sydd ddim cystal.”

Ymadawiad Jonsi = cwymp?

Fis Hydref y llynedd roedd BBC Cymru yn brolio bod 172,000 yn gwrando ar yr orsaf genedlaethol Gymraeg bob wythnos dros fisoedd yr Haf – sef 28,000 yn fwy na fu’n gwrando yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn hon.

Hefyd yn yr Hydref mi adawodd y Troellwr Disgiau poblogaidd Eifion Pennant Jones yr orsaf dan gwmwl.

Jonsi oedd un o DJ’s mwya’ poblogaidd Radio Cymru dros y ddegawd ddiwetha’.

“Mae ymadawiad Jonsi yn cyd-daro efo cyfnod pan oedd yna gwymp eitha’ bychan yn ffigyrau gwrando Radio Cymru,” meddai Dr Llion Iwan.

“Fydd yn rhaid i ni aros tan y cyfnod nesa’ i weld os ydy’r ddau yn gysylltiedig i farnu hynny, a’r [cyfnod] nesa wedi hynny.

“Mae’n rhy gynnar i farnu os ydy ymadawaid un cyflwynydd wedi arwain at y cwymp.”

Doedd golygydd Radio Cymru ddim am drafod y ffigyrau diweddara’.

Ond mewn datganiad mi ddywedodd Siân Gwynedd: “Rydyn ni yn fodlon ar ffigyrau’r chwarter yma ar gyfer Radio Cymru. Rydyn ni’n falch o fod wedi darparu darlledu o’r safon uchaf o ddigwyddiadau cenedlaethol, ac yn edrych ymlaen am haf prysur o ddarlledu o ddigwyddiadau ledled y wlad.”