Catherine a Ben Mullany
Mae ewyrth Cymro gafodd ei ladd ar ei fis mêl wedi cwblhau taith seiclo 195 milltir er cof am ei nai.
Cyrhaeddodd Michael Meredith a tri chyfaill Abertawe ar ôl gadael Ynys Môn 23 awr ynghynt.
Cymerodd y tad-cu 58 oed ran yn y daith er mwyn codi arian at elusen er cof am Ben Mullany a’i wraig Catherine.
Cafodd y pâr priod ifanc o Bontardawe eu saethu’n farw yn Antigua pythefnos ar ôl priodi, yn 2009.
Dywedodd Michael Meredith ei fod yn gobeithio y byddai’r daith yn cadw achos llys y llofruddwyr honedig yng ngolwg y cyhoedd.
Roedden nhw wedi hefyd wedi codi £2,000 at yr elusen The Mullany Fund drwy gymryd rhan yn y daith, meddai.
“Roeddwn i’n teimlo fod yn rhaid i fi wneud rhywbeth,” meddai. “Mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i’r teulu a does dim sicrwydd pryd y bydd y dynion sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio Ben a Cath yn wynebu achos llys.”
Y daith
Gadawodd y seiclwyr, Michael Meredith, Terry Maloney, John Cole a Kelston Glover, Amlwch yn Ynys Môn toc cyn 10am bore ddoe.
Teithiodd y pedwar drwy Gaernarfon, Porthmadog, Aberystwyth a Llanbedr pont Steffan.
Disgynnodd Terry Maloney o’i feic ar ôl 100 milltir, ond brwydron nhw ymlaen drwy dywydd garw a chyrraedd Abertawe am 9.45am y bore canlynol.
“Dyna’r peth caletaf ydw i wedi ei wneud erioed,” meddai Michael Meredith.
“Roedd yna wynt a glaw yr holl ffordd i lawr a doeddwn i ddim yn siŵr a fyddwn i’n gorffen y daith.”
Dywedodd y tad i ddau ei fod wedi dioddef trawiad ar y galon ychydig flynyddoedd yn ôl, ac nad oedd ei wraig Cheryl yn hapus ei fod wedi cymryd rhan yn y daith.
“Roeddwn i wedi addo na fyddwn i’n gwneud unrhyw beth fel hyn eto,” meddai. “Doedd hi ddim yn hapus fy mod i’n gwneud hyn ac yn pryderu.
“Rydw i’n gwybod fy mod i wedi ei siomi hi a dydw i ddim yn falch o hynny. Fe fydda i’n treulio llawer iawn o amser gyda hi dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud yn iawn am hynny.”
Yr achos
Mae dau ddyn o Antigua ym Môr y Caribî wedi cael eu cyhuddo o ladd y cwpwl ifanc.
Ond mae Avie Howell a Kaniel Martin hefyd wedi eu cyhuddo o dair llofruddiaeth arall a’r disgwyl yn awr yw y bydd eu cyfreithwyr yn gofyn am drin y pum achos ar wahân.
Fe fydd cymaint â 70 o dystion yn cymryd rhan yn yr achos, gyda llawer yn gorfod teithio i’r ynys o wledydd eraill.