Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo yn dilyn lladrad mewn swyddfa bost ger Castell-nedd.

Cafodd arian ei ddwyn o Swyddfa Bost Cilfrew am 9.10am ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dau ddyn, 18 a 20 oed, wedi eu cyhuddo o ladrata.

Fe fyddwn nhw yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Castell-nedd ddydd Iau.

Cafodd trydydd dyn, 20 oed, ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu ymchwilio ymhellach.