Y Pafiliwn Pinc
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r pedwar ymgeisydd a fydd yn cymryd rhan yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Derbyniwyd un ar hugain o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro, gyda chystadleuwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt.
Y pedwar a ddaeth i’r brig wedi diwrnod o gystadlu yng Ngholeg Iâl, Wrecsam oedd Cat Dafydd o Gaerffili, Kay Holder o Ddinas Powys, Neil Wyn Jones o Gilgwri a Sarah Roberts o Fangor.
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, ei fod yn fodlon iawn gyda’r gystadleuaeth ei hun.
“Mae’r safon heddiw wedi bod yn arbennig o uchel, a rydym wedi mwynhau diwrnod arbennig o hwyliog,” meddai.
“Mae’r pedwar a ddaeth i’r brig yn ardderchog, ac yn sicr o ysbrydoli cymaint o bobl eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg. Roedd straeon pawb mor wahanol a’r cyfan yn ddiddorol, gyda rhesymau di-rif dros ddysgu’r iaith.
“Mae’r pedwar llwyddiannus yn llawn haeddu’u lle’n y rownd derfynol yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Edrychwn ymlaen i’w gweld unwaith eto bryd hynny, a diolch i bawb a ymgeisiodd am gystadlu a bod yn rhan o ddiwrnod i’w gofio.”
Roedd 150 o bobol wedi ymgynnull ar gyfer diwrnod o weithgareddau, gan gynnwys bingo a dawnsio salsa.
Cynhelir y rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher, 3 Awst, a’r seremoni wobrwyo y noson honno yn Neuadd Goffa Wrecsam.
Yr ymgeiswyr
Cat Dafydd – Daw Cat Dafydd o Fanceinion yn wreiddiol, ac mae’n byw ym Maesycwmer ger Caerffili erbyn hyn gyda’i gŵr, Iestyn a’i dau fab, Ioan sy’n bedair ac Emrys sy’n ddwy oed. Mae Cat yn disgwyl eu trydydd plentyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Ro’n i moyn dangos pa mor hawdd yw mynd ati i ddysgu Cymraeg gyda phlant ifanc,” meddai Cat. “Mae’n amser gwych i ddysgu. Does dim rhaid poeni am fod yn berffaith – y peth pwysig yw bod pobl yn dy ddeall di.”
Rheolwr i BT yw Cat yn ei gwaith bob dydd, ac mae’i diddordebau’n cynnwys canu a dysgu Cymraeg i bobl ar y we drwy’r wefan www.saysomethinginwelsh.com sy’n cael ei rhedeg gan ei gŵr.
Kay Holder – Mae Kay Holder yn ieithydd arbennig ac mae’n gweithio fel tiwtor preifat Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Yn wreiddiol o Benarth, mae Kay’n parhau i fyw ym Mro Morgannwg yn Ninas Powys.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 ac mae’n rhan o’r trefniadau ar gyfer yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg y flwyddyn nesaf.
“Rydw i’n figan ac mi es i’r Eisteddfod i hybu figaniaeth, a darganfod iaith, byd a diwylliant newydd,” meddai.
“Dechreuais i ddysgu’r delyn ar Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd hefyd, ac erbyn hyn rydw i wedi sefyll arholiad Gradd 3. Felly, newidiodd yr Eisteddfod a’r iaith fy mywyd!”
Dechreuodd Kay ddysgu Cymraeg drwy lyfrau pan yn byw yn Lloegr, ac yna symudodd yn ôl i Gymru ac mae’n mynychu dosbarthiadau Gloywi a Siawns am Siarad 4 ers mis Hydref.
Neil Wyn Jones – O Gilgwri y daw Neil Wyn Jones, ac mae’n dal i fyw yn yr ardal hyd heddiw. Mae’n saer coed yn ardal West Kirby. Yn 49 oed, mae ganddo ef a’i wraig, Jill, un ferch, Miriam, sy’n bedair ar ddeg oed. Defnyddiodd Neil y we i ddysgu Cymraeg, a bu hefyd yn dilyn cwrs ar-lein Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Rydw i wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni er mwyn cael cyfle i ymarfer fy Nghymraeg ac er mwyn i mi gael cyfarfod dysgwyr eraill o bob rhan o Gymru a thu hwnt,” meddai.
“Mae’n bwysig cael cyfle i ymarfer siarad Cymraeg – ac mae bob amser yn hwyl cyfarfod pobl newydd sy’n gwneud yr un peth.”
Mae Neil yn dysgu Cymraeg ers deng mlynedd ac yn mwynhau beicio, pêl droed a cherddoriaeth.
Sarah Roberts – O Atherton ger Bolton y daw Sarah Roberts yn wreiddiol, ac erbyn hyn mae’n byw ym Mangor. Aeth Sarah ati i ddysgu Cymraeg gan ddilyn cwrs Wlpan, siarad gyda theulu a thrwy fynd ati i ddefnyddio Cymraeg yn ei gwaith fel Therapydd Galwedigaethol yn Ysbyty Gwynedd.
“Rwyf wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi 2007, ac yn mwynhau dysgu’r iaith a chael cyfle i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gwaith,” meddai.
“Gobeithio y bydd hyn yn rhoi hwb i bobl eraill sy’n dysgu a gobeithio hefyd y bydd y ffaith fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ddylanwad da ar ddysgwyr eraill.”
Mae Sarah hefyd yn mwynhau ymarfer corff a chwaraeon ac ymwneud gyda’r capel yn lleol. Mae’n 25 oed ac yn briod ag Euryn.