Al Lewis a'r Band
Wedi llwyddiant eu halbwm poblogaidd, Sawl Ffordd Allan, mae Al Lewis Band wedi rhyddhau albwm newydd ar label Rasal yn ddiweddar. Owain Schiavone sy’n crynhoi ei deimladau am Ar Gof a Chadw…
Tydi cynnig diweddaraf Al Lewis Band ddim yn albwm gwael o bell ffordd. I ddweud y gwir, mewn sawl ystyr mae’n albwm arbennig o dda, ond dwi’n methu peidio â theimlo ychydig yn siomedig gydag ‘Ar Gof a Chadw’.
Wedi gwrando ar y casgliad droeon bellach, dwi o’r diwedd wedi dod i ganlyniad ynglŷn â pham ym mod i’n siomedig – yn syml iawn, disgwyliadau rhy uchel!
Mae ‘na ddau reswm am y disgwyliadau uchel yma, neu ddau albwm i fod yn fanwl gywir. Yn gyntaf, roedd albwm diwethaf Al Lewis Band, Sawl Ffordd Allan, yn un arbennig o dda gyda nifer o ganeuon ‘mawr’ y byddai rhywun yn eu hystyried yn hits yn y cyd-destun cerddoriaeth Cymraeg.
Ac wedyn mae albwm cyntaf Gildas, Nos Da, a ryddhawyd llynedd.
Nos Da’n rhy dda
I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwybod, prosiect unigol boi o’r enw Arwel Lloyd ydy Gildas – Arwel ydy prif gitarydd a chyfaill oes neb llai na Mr Al Lewis. O’m safbwynt i, roedd Nos Da yn un o albyms Cymraeg gorau 2010, os nad y gorau ohonyn nhw, ac mae’n dipyn gwell albwm nac Ar Gof a Chadw.
Mae’n annheg cymharu gwaith gan ddau brosiect gwahanol fel hyn efallai, ond pryd mae cysylltiad mor agos rhwng y ddau mae’n anochel.
Gormod o sglein
Fel gyda gwaith blaenorol Al Lewis Band, mae Ar Gof a Chadw yn ddarn proffesiynol o waith gyda sglein ar y gwaith cyfansoddi a chynhyrchu. Prin fod nodyn o’i le ar y casgliad, ond efallai bod ychydig bach gormod o bolish os rhywbeth. Mae hyn wedi bod yn nodwedd amlwg o waith Al erioed, a chwarae teg iddo am hynny, ond yn bersonol buaswn yn hoffi gweld rhywbeth bach mwy amrwd weithiau.
Does ‘na ddim yr un ‘hits’ arni ag oedd ar Sawl Ffordd Allan, mae hynny’n sicr. Does ‘na ddim caneuon sy’n sefyll allan gymaint ag yr oedd ‘Doed a Ddêl’ a ‘Lle Hoffwn fod’ i enwi dim ond dwy ar honno. Wedi dweud hynny, mae yna ganeuon sy’n sticio yn eich pen ar Ar Gof a Chadw – caneuon fel ‘Clustiau March’ a ‘Dŵr yn y Gwaed’ er enghraifft – ond yn anffodus nid rhain ydy’r caneuon gorau ar yr albwm ac efallai mai dyma ydy rhan o’r broblem.
Diweddglo da
Mae ail hanner yr albwm yn well na’r hanner cyntaf, a’r tair cân olaf yn creu diweddglo da. Ar yr albwm diwethaf fe wahoddwyd Meic Stevens i gyfrannu ei lais i ‘Gwenwyn’ ac unwaith eto mae lleisydd gwadd ar ffurf Elin Fflur yn canu ar ‘Hafan’ sy’n enghraifft o adeiladwaith da iawn mewn cân – rhinwedd amlwg arall o lawer o waith Al Lewis Band.
Y ddwy gân orau ydy Colli’r Cyfle a’r trac teitl sy’n cloi’r casgliad. Dyma ble mae Al Lewis Band ar eu gorau i mi – wedi ei stripio lawr ac yn syml ond effeithiol. Mae llais arbennig Al ei hun yn arf cryf ac ar y math yma o ganeuon mae’r arf hwnnw’n cael ei ddefnyddio’n fwyaf effeithiol.
Mae’n anodd crynhoi gan fod Ar Gof a Chadw yn albwm ddigon da, ond braidd yn siomedig ar yr un pryd. Fe fydd yr albwm yn gwerthu, ac fe fydd rhai o’r caneuon yn cael eu chwarae’n rheolaidd ar y radio…ond y caneuon anghywir mae’n siŵr.
Gwir y gair, mae disgwyliadau’n gallu bod yn faich.