Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae’r Frenhines wedi cadarnhau mai Carwyn Jones yw Prif Weinidog Cymru.
Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, gafodd ei enwebu i’r swydd ddoe, yn dechrau ar y broses o benodi Cabinet newydd heddiw.
Mae disgwyl datganiad i’r perwyl hwnnw yn ddiweddarach.
Fe fydd y gweinidogion hefyd yn eu penodi yn swyddogol gan y Frenhines ac yn gorfod tyngu llw er mwyn cael eu gwneud yn weinidogion.
“Mae’n fraint cael gwasanaethu pobol Cymru a dechrau ar ein rhaglen uchelgeisiol er mwyn creu gwlad tecach a mwy llewyrchus yn yr amseroedd anodd yma,” meddai Carwyn Jones.
“Fe fyddaf i’n cyhoeddi fy Nghabinet cyn bo hir.”
Bydd rhaid iddo lenwi rhai swyddi cyn-weinidogion Plaid Cymru, gan gynnwys y Gweinidog Amaeth, y Gweinidog Treftadaeth, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, a’r Dirprwy Weinidog Tai.
Enillodd y Blaid Lafur union hanner y seddi yn y Cynulliad yn yr etholiadau wythnos yn ôl ac mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi dweud y bydd yn cydweithio gyda’r pleidiau eraill.
Etholwyd Rosemary Butler, AC Gorllewin Casnewydd, yn Llywydd y Cynulliad, gan olynu Dafydd Elis-Thomas oedd wedi cyflawni’r swydd ers 12 mlynedd.
Cafodd y Ceidwadwr David Melding, AC ar restr Canol De Cymru, ei ethol yn Ddirprwy-Lywydd.