Nick Bourne - gollodd ei sedd ddydd Gwener
Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a yw’n bryd ystyried newid y system bleidleisio…
Wrth i Brydain bleidleisio i gadw y system cyntaf i’r felin ar draul y system blaidlais amgen, efallai ei fod yn bryd ailedrych ar ein system ni yn Etholiadau’r Cynulliad.
Does dim gwadu ei fod yn fwy cyfrannol na’r system cyntaf heibio’r postyn – fel arall fe fyddai gan y Blaid Lafur 70% o’r seddi ar 42% o’r bleidlais.
Ond o ran y gwleidyddion sy’n cyrraedd y Senedd yn y pen draw mae’r system bresennol yn dipyn o loteri. Er engraifft, collodd arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, ei sedd oherwydd llwyddiant ei blaid wrth gipio Sir Drefaldwyn.
Onid y peth pwysicaf yw bod y gwleidyddion gorau posib gan bob plaid yn y Cynulliad? Ydi’n gwneud synnwyr fod Lindsay Whittle yn AC heddiw ond gwleidyddion mwy profiadol fel Nerys Evans neu Helen Mary Jones ddim?
(Dim byd yn erbyn Lindsay Whittle wrth gwrs – esiampl ydi o!)
Efallai mai un cam tuag at ddatrys y broblem fyddai caniatáu i wleidyddion sefyll mewn etholaethau ac ar y rhestrau rhanbarthol unwaith eto. Byddai hefyd yn syniad cael gwared ar y rhestrau rhanbarthol yn gyfan gwbwl a sefydlu rhestr Cymru-gyfan, fel bod yr ymgeiswyr gorau gan bob plaid ar flaen y ciw.
Neu hyd yn oed troi cefn ar d’Hont a mabwysiadu’r system STV?
Ar hyn o bryd mae’r Cynulliad fel Uwch Gynghrair Cymru yn cystadlu â Uwch Gynghrair Lloegr – mae yna berygl fod y chwaraewyr gorau yn mynd dros y ffin, i San Steffan.
Mae angen gwneud yn siwr nad ydi’r ychydig wleidyddion o safon sy’n penderfynu aros yn colli’r cyfle i wneud hynny ar hap a damwain.