Aamir Siddiqi
Mae dyn 36 oed ganfodd ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir Siddiqi wedi ei ryddhau ar fechniaeth, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, a’i ryddhau wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.
Mae dyn arall 30 oed, gafodd ei arestio yr un diwrnod, 4 Mai, ar amheuaeth o’r un drosedd, wedi ei ryddhau ar fechniaeth. Mae’r ddau ddyn o Geardydd.
Mae dau ddyn arall, 36 a 37 oed, yn parhau yn y ddalfa wedi eu cyhuddio o lofruddio Aamir Siddiqi a cheisio llofruddio ei rieni.
Y cefndir
Ymosodwyd ar Aamir Siddiqi, 17, yn ei gartref ar Stryd Ninian, y Rhath, tua 1.40pm, ddydd Sul, 11 Ebrill 2010.
Cafodd ei drywanu i farwolaeth ac fe ddioddefodd ei rieni anafiadau difrifol.
Mae’r heddlu eisiau cael gafael ar Mohammed Ali Ege, 32, o ardal Glan yr Afon Caerdydd, ar amheuaeth o gynllwyn i lofruddio.
Dywedodd yr heddlu ei fod yn groenddu, pum troedfedd 10 modfedd, yn denau, â gwallt du wedi ei eillio neu ei docio, llygaid brown, ac acen Gymreig.
Ni ddylai’r cyhoedd nesáu ato ond fe ddylen nhw roi gwybod i’r heddlu yn syth os ydyn nhw’n gwybod lle y mae o.
Mae gwobr o £10,000 ar gael am unrhyw wybodaeth newydd sy’n arwain at arestiadau pellach yn achos Aamir.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio02920 527 303 neu Daclo’r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555 111.
Dylai unrhyw un sy’n gweld Ali Ege ffonio 999.