Dafydd Elis-Thomas
Cyn ethol Prif Weinidog newydd ar Gymru fe fydd yn rhaid i ACau benderfynu pwy fydd Llywydd a Dirprwy-lywydd y Cynulliad.
Cafodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei benodi’n Llywydd yn 1999, cyn cael ei ail-benodi yn 2003 a 2007.
Mae yna ansicrwydd a fydd yn cael ei ail ethol eleni, wrth i rai ACau deimlo fod yr aelod dros Ddwyfor Meirionydd wedi bod yn y swydd yn rhy hir.
Bydd ACau’r Blaid Lafur yn cyfarfod ddydd Mawrth er mwyn trafod y camau nesaf ac mae’n bosib y byddwn nhw’n penderfynu pleidleisio am Lywydd newydd.
Yn 2007 fe wnaeth y Cynulliad gyfarfod am y tro cyntaf ar y dydd Mercher ar ôl yr etholiad ac mae’n debygol mai’r un fydd y drefn eleni.
Mae rheolau’r Cynulliad yn golygu fod rhaid i’r Llywydd a’r Dirprwy-lywydd ddod o bleidiau gwahanol, os nad yw dau draean o’r ACau yn pleidleisio fel arall.
Ethol llywydd – y drefn
Rhaid cynnal y Cyfarfod Llawn cyntaf o fewn saith niwrnod gwaith i’r etholiad (erbyn dydd Llun, 16 Mai 2011), a hynny er mwyn ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd. Bydd y trafodion yn dechrau drwy ethol Llywydd, ac wedyn caiff Dirprwy Lywydd ei ethol.
Bydd yr Aelod a oedd yn dal swydd y Llywydd yn syth cyn etholiad y Cynulliad yn pennu dyddiad ac amser y Cyfarfod Llawn cyntaf, gan ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol.
Os yw’r Llywydd blaenorol yn amharod neu’n anabl i wneud hynny, Clerc y Cynulliad sydd i bennu’r dyddiad a’r amser.
Y Llywydd blaenorol fydd yn cadeirio’r trafodion i ethol y Llywydd newydd. Fodd bynnag, ni all y Llywydd blaenorol gadeirio’r trafodion os yw’n dymuno cael ei enwebu i’w ethol yn Llywydd.
Os yw’r Llywydd blaenorol yn dymuno sefyll i’w ethol yn Llywydd, Clerc y Cynulliad sydd i gadeirio trafodion yr etholiad.
Os bydd angen cynnal pleidlais gyfrinachol, bydd y Cadeirydd yn gohirio’r cyfarfod (am gyfnod sydd i’w bennu ganddo).
Bydd pob Aelod yn cael papur pleidleisio a byddant yn bwrw eu pleidlais ac yn rhoi’r papur yn y blwch pleidleisio.
Clerc y Cynulliad fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r broses bleidleisio a’r broses o gyfri’r pleidleisiau. Os un enwebiad yn unig sy’n dod i law, bydd gofyn i Aelodau bleidleisio o blaid neu yn erbyn yr Aelod a enwebwyd.
Os daw mwy nag un enwebiad i law, bydd gofyn i Aelodau ddethol yr ymgeisydd y maent yn ei ffafrio. Yn y ddau achos, caiff Aelodau ymatal rhag pleidleisio.
Os bydd dau Aelod wedi’u henwebu a’r naill a’r llall wedi cael nifer cyfartal o bleidleisiau yn y bleidlais gyfrinachol, cynhelir pleidleisiau cyfrinachol pellach nes i un ymgeisydd gael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.
Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac os na fydd yr un ohonynt yn cael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol, bydd yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael ei dynnu o’r broses.
Cynhelir pleidleisiau cyfrinachol pellach nes i un ymgeisydd gael mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.
Bydd y Cadeirydd yn datgan canlyniad yr etholiad yn y Siambr. Bydd yr Aelod sydd wedi’i ethol yn Llywydd yn tyngu’r llw os na fydd eisoes wedi gwneud hynny, a bydd yn mynd i’r Gadair ar unwaith i gadeirio unrhyw fusnes sy’n weddill ar agenda’r Cyfarfod Llawn, gan gynnwys ethol y Dirprwy Lywydd.
Mae’n bosibl hefyd y bydd y Llywydd newydd yn dewis traddodi araith dderbyn.