Erthygl o Gylchgrawn Golwg, 5 Mai, gan Barry Thomas…
“Dim ond ffŵl fyddai’n ceisio darogan pwy fydd yn ennill y sedd hon!”
Dyna farn yr unig ddyn yn y ras i gipio etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Selwyn Runnett, yn cydnabod mai ras rhwng Llafur, y Torïaid a Phlaid Cymru yw hi – a merched yw pob un o’r ymgeiswyr.
Yn 2007 dim ond 250 o bleidleisiau oedd yn gwahanu’r Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru. Mae’r tair sydd yn y ras wedi cael blas ar bolitics y Bae: y Tori Angela Burns sy’n amddiffyn sedd oedd ym meddiant Christine Gwyther o’r Blaid Lafur cyn hynny, ac mae Nerys Evans wedi bod yn AC dros y Canolbarth. Felly mae’n bosib darogan yn hyderus mai menyw fydd AC nesa’r etholaeth.
Burns ar dân
Mae Angela Burns yn tanio am ddiffyg profiad busnes llawer o’i chyd-Aelodau Cynulliad, ac mae’n amlwg ei bod am frwydro bob cam o’r ffordd i gadw’i sedd.
Mae’n dweud iddi gael ymateb da wrth ganfasio ond mae’n cwyno am y wasg.
“Mae’r wasg yn cymryd yn ganiataol fy mod i’n mynd i golli, ac mae’n mynd ar fy nerfau.”
Cyn cael ei hethol yn 2007, roedd Angela Burns wedi gweithio i fusnesau mawr Waitrose, Asda a John Lewis, ac i gwmni torri gwair ym maes awyr Heathrow.
Mae’n flin bod Cymru yn dal i sugno nawdd cyhoeddus o Ewrop, ac yn mynnu na ddaw gwell system addysg a gwasanaeth iechyd heb economi sy’n tanio.
“Ddyle bod teimlad o gywilydd bod Cymru yn dal yn gymwys ar gyfer ail, ac o bosib trydydd rownd o nawdd o Ewrop,” meddai.
“Ddylen ni ddim bod yn wlad trydydd byd… mae’n abswrd bod Plaid yn galw am annibyniaeth – fydden ni’n dal yn gorfod goroesi ar grantiau o Ewrop.”
Mae nifer o drigolion lleol yn cytuno bod angen torri nôl ar wariant cyhoeddus, meddai.
“Mae yna lawer iawn o bobol sydd wedi ymddeol yn yr etholaeth sydd wedi gweld eu cynilion yn edwino i ddim byd, sy’n flinedig ac yn teimlo eu bod nhw’n talu am wladwriaeth les… yn teimlo eu bod nhw’n talu am bobol sy’ ddim angen help, ond sy’n cael help.”
Nerys yn hyderus
Yn ôl Nerys Evans mae rhai o gyn-gefnogwyr y Blaid Lafur wedi bod yn ffonio ei swyddfa yn cynnig ei helpu.
“Mae pobol o Penfro a Doc Penfro yn ffonio yn gofyn am bosters ac eisiau dod i helpu. Ni erioed wedi cael hyn’na,” meddai Nerys Evans.
Nid yw’r bowns o blaid Llafur yn y polau piniwn wedi cyrraedd y gorllewin, yn ôl Nerys Evans.
“Roeddwn i’n siarad gyda cwpwl o bobol yn Doc Penfro, lle’r oedd Peter Hain wedi bod yn canfasio. Ro’n nhw wedi gwylltio bod Peter Hain yn cymryd eu pleidlais nhw yn ganiataol. A dyna’r agwedd yn rhai o’r ardaloedd hen Lafur yma.”
Ac mae’n dweud fod y Torïaid mewn trafferth hefyd.
“Mae pleidlais y Ceidwadwyr lawr, ac r’yn ni’n clywed hynny oddi wrth pobol o fewn y Blaid Geidwadol. Eu bod nhw yn derbyn bod pethau yn edrych yn ddrwg arnyn nhw.”
Ar ôl curo drysau i ofyn am fôt ers misoedd lawer, mae Nerys Evans yn falch iddi ildio ei sedd saff ar frig rhestr Plaid yn y Canolbarth, er mwyn canolbwyntio ar sedd ei hetholaeth.
“Fi’n hyderus, fi’n ffyddiog. Mae’r ymgyrch wedi mynd yn dda iawn.”
Gwyther yn gobeithio
Mae’n bosib mai cofio Christine Gwyther fel y Gweinidog Amaeth nad oedd yn bwyta cig y bydd y rhan fwyaf o bobol Cymru ond mae’n wahanol yn yr etholaeth, meddai’r ymgeisydd Llafur.
“Mae’r rhan fwyaf o’r bobol yn yr etholaeth yn fy nghofio am y gwaith rydw i wedi’i wneud yma, a dyna’r realiti o fod yn wleidydd lleol.”
Mae’n synnu at honiad Nerys Evans bod y Blaid yn rhwydo hen gefnogwyr Llafur yn Noc Penfro.
“Rydach chi hefyd yn gweld pobol Plaid yn dod drosodd i Lafur.
“Ym mhob etholiad mi fydd yna groesbeillio syniadau.”
Y Ceidwadwyr yw’r prif fygythiad i’w gobeithion o gael trydydd tymor yn y Cynulliad, meddai.
“Mae’r Ceidwadwyr yn beiriant canfasio llyfn ac effeithiol,” meddai gan gyfeirio at eu defnydd o’r ffôn a’r We i ddylanwadu ar bleidleiswyr.
“Nid yw’r Cynulliad wedi bod yn ffon hud sydd wedi gwneud popeth yn iawn, ond mae pobol yn gweld ein bod ni ar y trywydd iawn,” meddai’r unig ddynes yn y ras sydd yn gwrthwynebu lladd moch daear.
“Ac mae pobol yn edrych at Carwyn Jones i fod yn ffigwr cryf pan ddaw hi’n amser i sefyll fyny at Lywodraeth Prydain a delifro gwasanaethau lleol.”
Ymateb calonogol
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael gwell croeso na’r disgwyl wrth ganfasio, meddai’r ymgeisydd.
“Roeddwn i wedi disgwyl amser caled wrth fynd allan i ymgyrchu,” meddai Selwyn Runnett, “ond er gwaetha’r hyn sy’n cael ei ddweud yn y wasg, mae pobol yn deall bod ein plaid ni’n wahanol yma yng Nghymru. Fe wnaeth ein holl Aelodau Seneddol Cymreig bleidleisio yn erbyn codi ffioedd y myfyrwyr.”
Mae Selwyn Runnet yn bregethwr lleyg yng Ngherfyrddin a’r gŵr 52 oed yn nabod yr ardal yn dda, meddai, drwy ei waith yn werthwr tai.
Mae’r etholiad yn gyfle i roi seiliau cadarn i’r Lib Dems yn yr etholaeth, meddai.
“Mi allech chi ddadlau na fydd hi’n un o flynyddoedd gorau’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond yn lleol rydan ni wedi cael ymateb calonogol.”
Etholaeth amrywiol
Mae etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn gymysgedd ryfedd: tre’ Gymreig Caerfyrddin ar un pen, a Doc Penfro ddi-Gymraeg y pen arall. Yn y canol mae ffermydd teuluol, a thwristiaeth yn Ninbych-y-pysgod.
Mae torri ar wariant cyhoeddus yn un pwnc llosg, gyda phencadlys Heddlu De Powys, Ysbyty Glan Gwili, talp mawr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phrif swyddfeydd cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn yr etholaeth.