Arwyddion yng Ngheredigion
Erthygl o Gylchgrawn Golwg, 5 Mai, gan Anna Glyn…

“Dw i ddim yn meddwl mai lladd y moch daear ydi’r ateb.”

Geiriau ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Ceredigion mewn cyfarfod etholiad yn Aberaeron.

A hithau’n ferch o’r dref, roedd Elizabeth Evans wedi camu i ffau’r llewod wrth i  aelodau Undeb Amaethwyr Cymru fynnu rhoi’r diciâu mewn gwartheg ar dop yr agenda.

“Chi wedi dweud bo chi ddim yn arbenigwr ar ffermio.” meddai un o’r gynulleidfa, “Dw i ddim yn arbenigwr ar astro physics ac os ydw i eisiau gwybod rhywbeth am y pwnc dw i’n gofyn i’r arbenigwyr a derbyn eu barn nhw!”

Ond roedd Elizabeth Evans wedi disgwyl talcen caled wrth geisio disodli Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad, Elin Jones, mewn etholaeth lle mae ffermio yn allweddol.

Awr ynghynt wrth gael ei holi am ei gwybodaeth am ffermio, roedd hi’n ateb yn onest.

“Dim a dweud y gwir. Ond mae Ceredigion yn sir fwy na jest ffermwyr. Bydd e’n fantais iddi hi (Elin Jones) heno achos mae hi yn y ei comfort zone. Ond sa’ i’n feddyg ac mae barn gyda fi ar iechyd, sa’ i’n social worker ond mae barn gyda fi ar y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhaid gweithio ar gyfer y sir i gyd.”

A chafodd ymgeiswyr eraill amser galed am ddatgan am wrthod cefnogi difa moch daear.

Mae Ceredigion yn ardal wledig gyda ffermio yn asgwrn cefn i’r economi a’r gymdeithas. Mae hi hefyd yn sir sydd yn ddibynnol iawn ar waith y sector gyhoeddus a gyda dwy brifysgol mae pleidlais y myfyrwyr yn y gorffennol wedi bod yn bwysig.

Am ganrif a rhagor sedd Ryddfrydol fu Ceredigion cyn troi at Lafur rhwng 1966 a 1974. Ond yn fwy diweddar cystadleuaeth rhwng Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru sydd yma.

Colli sedd San Steffan

Cafodd Plaid Cymru ysgytwad yn Etholiad Cyffredinol San Steffan y llynedd.

Ar ôl bod yn hyderus o gipio’r sedd yn ôl oddi ar yr AS Rhyddfrydol oedd â dim ond ychydig dros 200 o fwyafrif, fe ddaliodd Mark Williams ei afael ar y sedd gan gynyddu ei fwyafrif i fwy nag 8,000.

“Dw i wastad yn nerfus ynglŷn ag unrhyw ganlyniad.” cyfaddefa Elin Jones wrth gael ei holi a oes perygl i’w phlaid fod yn orhyderus eto’r tro hwn. “Dw i ddim yn cymryd e’n ganiataol achos mae Ceredigion yn sir sydd yn gallu bod yn dwyllodrus, o ran sut mae’n trin ei gwleidyddion,” meddai.

Mae’r ferch ffarm o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan, sydd â gradd bellach mewn Economeg Wledig, yn wleidydd profiadol. Mae’n dda am fân siarad wrth i Golwg ei dilyn wrth ganfasio yn Aberaeron. Mae’n mynd o ddrws i ddrws ac yn cael croeso, hyg fawr gan un a’i llusgo drws nesaf i barti pen-blwydd yn yr ardd gefn!

Ond sut ymateb mae’n cael ar garreg y drws mewn llefydd eraill?

“Ymateb digon tebyg i be rydach chi yn weld yma heno, sydd yn ymateb positif iawn ac o ystyried ein bod ni yn ward Elizabeth Evans, mae’r ffaith bod ni’n cael gymaint o gefnogaeth yn galondid i fi.”

Mae’n AC yr ardal ers tri thymor a dyw hi ddim yn credu iddi golli cefnogaeth ffermwyr ar ôl y ‘llanast’ diweddar yn methu bwrw ymlaen a’r cynlluniau difa moch daear a Glasdir.

“Dw i ddim yn derbyn ein bod ni wedi gwneud llanast. Hwn ydi’r pedwerydd etholiad i fi a dw i ddim wedi teimlo cefnogaeth ffermwyr yn fwy nag yn yr etholiad yma.”

Siomi yn y Cynulliad

Gweithio gyda’r AS Mark Williams, oedd byr ysgogiad i ferch siop chips Aberaeron, sy’n gynghorydd sir, i roi cynnig arni yn yr etholiad.

“Ro’n i’n gweld tro ar ôl tro siwt oedd llywodraeth y Cynulliad yn gadael ni lawr, o ran iechyd ac addysg.” meddai Elizabeth Evans. “Ac mae’r legislation sy’n dod mas o’r Cynulliad yn chaotic.”

Dyw’r fenyw sydd â chefndir busnes ddim yn ceisio amddiffyn penderfyniad Nick Clegg i dorri ei addewid am ffioedd myfyrwyr. “Oedd e’n undefensible. Sa’ i’n mynd i amddiffyn fe o gwbl, oedd e’r peth anghywir i wneud.”

Mae’n cydnabod ei bod hi’n anodd ar bobol oherwydd y toriadau gan lywodraeth San Steffan. “Mae’n anodd yn yr hystings ond ddim wrth y drws achos mae pobol eisiau trafod beth sydd yn effeithio arnyn nhw.”

Dyw hi ddim yn gwybod os llwyddith i guro Elin Jones ond mae’n credu y bydd hi’n frwydr agos. “Sa’ i’n syffro gyda candidateitis. Maen nhw yn dweud bod ymgeiswyr yn credu eu spin eu hunain. Chi’n gweld posteri ar yr hewlydd. Ond na, dyw posteri ddim yn pleidleisio, dyw caeau ddim yn pleidleisio, pobol sydd yn pleidleisio.”

Llafur yn cymryd cam ymlaen

Anelu at yr ail safle mae’r ymgeisydd Llafur, Richard Boudier.

“Mae gymaint o bobol wedi ymddiheuro i fi am beidio pleidleisio Llafur yn yr etholiad diwethaf ac yn dweud eu bod nhw am wneud y tro yma achos eu bod nhw’n teimlo bod y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, i ryw raddau, wedi’u gadael nhw lawr,” meddai’r gŵr 22 oed sydd yn wreiddiol o Gaerdydd.

‘Llais newydd’ sydd angen ar bobol Ceredigion, yn ôl maer Aberystwyth gan wadu mai bwrw prentisiaeth y mae yn wleidyddol. “Yn amlwg y llynedd fe wnes i sefyll a gwneud rhai camgymeriadau. Mae e’n fedydd tân. Eleni dw i wedi paratoi lot mwy a dw i’n ymgeisydd am fy mod i eisiau bod. Dw i wirioneddol yn teimlo fy mod i eisiau helpu pobol.”

Llais dros bobol ifanc

Dyw’r ymgeisydd ifanc arall Luke Evetts o Lanarth ddim yn gweld ei oedran, mae’n 23 oed,  yn broblem. “Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi gadael pobol ifanc yng Nghymru i lawr gyda safonau addysg. Mae angen sicrhau dyfodol pobol ifanc.”

Petai drigolion Ceredigion yn pleidleisio gydag arddeliad, bydden nhw’n rhoi croes wrth ei enw, meddai. “os ydw i’n gallu perswadio pobol i bleidleisio dros y Torïaid yn lle’r Democratiaid Rhyddfrydol fe allwn i ennill. Mae pobol wedi bod yn pleidleisio yn dactegol i’r Rhyddfrydwyr i wneud yn siŵr bod Plaid Cymru yn colli,” meddai.

Mynd am yr ail bleidlais

Mae ymgeisydd Plaid Werdd Cymru yn cydnabod mai ei fwriad yw trio cael yr ail bleidlais ar y rhestr ranbarthol. “Fe wnaethon ni ddarganfod yn y tri Etholiad Cynulliad cynt os nad oes gyda chi ymgeisydd etholaeth chi’n cael eich anwybyddu gan y cyfryngau.” meddai Chris Simpson. “Dw i wedi derbyn dipyn o sylw gan y Cambrian News a’r Camarthen Journal. Dyw’r ymgeiswyr ar y rhestr ranbarthol ddim,” meddai.

“Mae polisïau’r Blaid Werdd yn edrych ar ddyfodol tymor hir Cymru gyfan.”

Rhagolwg

Mae’n amlwg ei bod yn ras rhwng y merched yng Ngheredigion.

Ar sail nifer y posteri a phlacardiau Elin Jones sydd ar y blaen gyda hanner dwsin am bob un i Elizabeth Evans.

Petai hi’n ennill eto mae sôn mai hi fydd arweinydd nesaf Plaid Cymru. “Nefoedd wen,” meddai dan chwerthin a rowlio’u llygaid. “Does dim byd pellach o’m meddwl i nawr nag arwain Plaid Cymru. Na, dw i ddim yn berson uchelgeisiol. Dw i’n awyddus i gynrychioli pobol Ceredigion.”