Swyddfa Plaid Cymru
Mae’r heddlu wedi cael eu galw ar ôl i swyddfa Plaid Cymru yn etholaeth Aberconwy gael ei fandaleiddio.
Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid, mae posteri wedi eu dinistrio a slogan wedi ei baentio ar draws y ffenest ym Mhenmaenmawr.
Does dim arwydd eto pwy sy’n gyfrifol am y weithred mewn etholaeth lle mae brwydr galed rhwng o leia’ tair plaid.
Plaid Cymru a’u hymgeisydd, Iwan Huws, sy’n amddiffyn y sedd yn y Cynulliad ond mae disgwyl her gref gan Lafur a’r Ceidwadwyr hefyd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu wrth Golwg 360 y byddwn nhw’n mynd draw i archwilio unrhyw ddifrod troseddol.
Gwrthdaro tros daflenni
Ddoe, roedd Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cwyno yn erbyn un o daflenni’r Blaid Lafur gan ddweud ei bod yn gwneud honiadau enllibus yn erbyn eu hymgeiswyr nhw.
Yn achos Plaid Cymru, sy’n dweud eu bod yn ystyried cymryd camre cyfreithiol, maen nhw wedi cyhoeddi datganiad heddiw yn gwadu manylion yr honiadau yn y daflen ddwyieithog.
Roedd honno’n dweud bod Iwan Huws wedi symud swyddi o Landudno i Gaerdydd pan oedd yn Gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Yn ôl Plaid Cymru, y gwrthwyneb sy’n wir – roedd ef ei hun wedi symud ei ganolfan o Gaerdydd i’r brif swyddfa yn Llandudno ac mae’r swyddfa yng Nghaerdydd bellach wedi cau.
Dem Rhydd eisiau ymddiheuriad
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn aros i’r Blaid Lafur gael cyfle i ymddiheuro a thynnu’r daflen yn ôl cyn y byddan nhw’n cymryd camre pellach.
Ymatebodd y Blaid Lafur drwy ddweud eu bod nhw “wedi derbyn gohebiaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ac fe fyddwn ni’n ymateb pan mae’n briodol”.