ar
Arhesgob Cymru, Barry Morgan - awgrymu newid
Arbenigwr busnes a chyn esgob fydd dau o’r tri sy’n arwain adolygiad pen-i’r-traed o’r Eglwys yng Nghymru.

Mae Archesgob Cymru, Barry Morgan, wedi sefydlu’r panel annibynnol i edrych ar holl waith yr eglwys gan rybuddio y bydd rhaid i aelodau fod yn barod am “newid mawr”.

Fe wnaeth y cyhoeddiad ddoe mewn araith i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yn Abertawe, gan ddweud y byddai’r panel yn cael edrych ar bopeth, yn cael holi am unrhywbeth ac yn cael pob gwybodaeth oedd ei hangen arnyn nhw.

Y ddau o’r tri aelod sydd wedi eu henwi yw’r Arlgwydd Harries – Richard Harries, cyn Esgob Rhydychen sydd â chysylltiadau Cymreig – a Charles Handy, un o sylfaenwyr Ysgol Fusnes Llundain.

Sylwadau’r Archesgob

“Wrth gomisiynu adolygiad o’r fath, bydd yn rhaid i ni gyd fod yn barod i gymryd ei ganfyddiadau o ddifrif a bod yn agored i’r posibilrwydd o newid sylweddol yn ein strwythurau, gweinidogaeth, defnydd adeiladau ac adnoddau eraill,” meddai Barry Morgan.

“Fel Mainc a Phwyllgor Sefydlog, credwn y bydd cyfuniad o’n dealltwriaeth ni ein hunain, Aelodau’r Corff Llywodraethu a’r Grŵp yma yn ein helpu i ddod y math o Eglwys y mae Duw’n dymuno i ni fod.”