Y cwpl brenhinol - yn edrych ymlaen at y llyfr?
Mae pawb yn gwybod bellach beth yn union y bydd y Pâr Brenhinol yn ei wneud yn hwyr nos fory.
Mae Prif Weinidog Prydain wedi datgelu’i fod yn rhoi llyfr am Sir Fôn yn anrheg priodas i’r Tywysog William a Kate Middleton – i nodi’r ffaith eu bod yn byw yno ar hyn o bryd.
Fe fydd David Cameron yn siarad am ei bresant gwerthfawr gyda gohebydd o’r sianel deledu Americanaidd, CBS.
Roedd wedi galw Môn yn “ynys fechan” ger glannau Cymru gan ddweud bod y Tywysog yn gwneud gwaith “chwilio ac achub” yno a’i fod yn “ddewr iawn”.
Yn ôl David Cameron, roedd y llyfr yn llawn lluniau prydferth ond wnaeth e ddim rhoi teitl y llyfr na’i bris.
Byw tali
Yn y cyfamser, mae Archesgob Caerefrog, Dr John Sentamu wedi bod yn ateb cwestiynau am y ffaith bod y priodfab a’r briodferch wedi bod yn byw gyda’i gilydd ym Môn cyn priodi.
“R’yn ni’n byw mewn amser,” meddai, “pan mae rhai pobol eisiau gwybod a yw’r llefrith yn dda cyn prynu’r fuwch.”
Beth ydych chi’n wneud ddiwrnod y briodas? Anfonwch i ddweud.