Un o'r straeon lleol o dudalen we Caerdydd
Fe fydd arbrawf Cymreig a oedd i fod i roi dyfodol newydd i newyddiaduraeth yn dod i ben.

Mae cwmni papurau’r Guardian wedi cyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau i’w gwasanaeth lleol o Gaerdydd.

Dim ond ers ychydig tros flwyddyn – Mawrth y llynedd – y mae’r adroddiadau lleol iawn wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar-lein ac, er fod y cwmni’n dweud eu bod wedi ennill darllenwyr, dydyn nhw ddim yn talu’u ffordd.

Y gobaith oedd y byddai Guardian Local yn creu math newydd o newyddiaduraeth leol iawn ac roedd Caerdydd yn un o ddim ond tair dinas oedd wedi’u dewis ar gyfer yr arbrawf.

Gohebydd

Fe gafodd gohebydd ei chyflogi i gysylltu gyda chymunedau a mudiadau lleol a cheisio rhoi llais iddyn nhw. Yn ôl y cwmni, roedd y gohebydd, Hannah Waldram, wedi cyfrannu at achub ambell wasaneth lleol ac wedi bod yn blogio’n fyw o gyfarfodydd cyngor.

Roedd dyfeisiadau eraill yn cynnwys ffurflen i’w llenwi i roi gwybod i Gyngor y Ddinas am waith oedd angen ei wneud.

Bellach, meddai’r cwmni, fe fydd y gwasanaethau yng Nghaerdydd, Caeredin a Leeds yn cael eu cau’n raddol tros y misoedd nesa’.

“O ran arbrawf mewn rhoi sylw i gymunedau lleol mewn ffordd newydd mae wedi bod yn llwyddiannus,” meddai’r cwmni, cyn ychwanegu nad oes modd ei gynnal.