Dinbych-y-Pysgod
Catrin Haf Jones sy’n cymryd cipolwg ar y prif seddi i’w gwylio ar 5 Mai. Nesaf mae De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin, lle mae’r canfasio tactegol yn dwyshau mewn etholaeth lle mae’r gystadleuaeth yn dyn rhwng y prif bleidiau…

De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin

Yr Etholaeth

Roedd hi’n sedd i Lafur am wyth mlynedd ond, yn 2007, llwyddodd y Ceidwadwyr i’w chipio o dan drwyn Llafur, gyda llai na chan pleidlais o fwyafrif. Fe wnaethon nhw ei hennill yn fwy cyfforddus yn Etholiad San Steffan yn 2010.

Nodwedd fawr yr etholiad yn 2007 oedd bod y tair plaid gynta’ – y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru – o fewn 250 o bleidleisiau i’w gilydd.

Mae dau o wynebau amlwg 2007 wedi dychwelyd ar gyfer etholiad 2011: bydd Angela Burns yn ceisio amddiffyn y sedd i’r Ceidwadwyr, a Christine Gwyther, yr aelod Cynulliad rhwng 1999 a 2007, yn ceisio ei hennill yn ôl i Lafur.

John Dixon, cyn-gadeirydd a chyn-aelod Plaid Cymru, a ddaeth yn drydydd bryd hynny. Mae ef bellach wedi gadael Plaid Cymru, yn nodi pryderon am “gyfeiriad y blaid”, ac mae’r AC rhanbarthol, Nerys Evans, wedi cymryd y  gambl o roi’r gorau i honno er mwyn sefyll yn yr etholaeth.

Mae’r etholaeth yn ymestyn o dref Caerfyrddin, lle mae Plaid Cymru’n gymharol gryf, i’r de at drefi gwyliau Dinbych y Pysgod, Saundersfoot a thref ddiwydiannol Doc Penfro. Roedd y rheiny’n arfer bod yn rhan o hen etholaeth Penfro a fu’n gadarnle i’r Ceidwadwyr yn San Steffan, gyda her achlysurol gan Lafur.

Mae’n etholaeth wledig, lle mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn ardaloedd arfordirol y de, tra bod bwriad y Llywodraeth i gau gorsaf gwylwyr y glannau de’r sir wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar.

Christine Gwyther – Llafur

Mae Christine Gwyther wedi mwynhau cefnogaeth selog o ryw wyth mil a hanner o bleidleisiau ym mhob etholiad Cynulliad yn Ne Penfro a Gorllewin Caerfyrddin ers 1999.

Ond mewn etholaeth lle mae’r prif ymgeiswyr o fewn ychydig gannoedd i’w gilydd bob tro, mae angen cefnogaeth mwy na’r selogion i ennill – fel y gwelodd Llafur yn 2007.

Eleni, mae ymgeisydd Llafur yn ffyddiog fod poblogrwydd arweinydd Llafur yng Nghymru, Carwyn Jones, yn mynd i ddenu’r gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen arni i ail-gipio sedd De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin.

“Mae pobol eisiau gweld Carwyn Jones fel Prif Weinidog, ac maen nhw eisiau gweld tîm cryf tu ôl iddo.”

Neges debyg sydd i’w glywed gan nifer o aelodau Llafur dros y misoedd diwethaf – sy’n dweud bod y blaid wedi cael adfywiad ers ethol arweinwyr newydd yn y Cynulliad ac yn San Steffan.

Mae Christine Gwyther, a groesawodd yr arweinydd Prydeinig, Ed Miliband, i’w hetholaeth yr wythnos diwethaf, yn dweud ei bod hi’n anochel fod materion Prydeinig yn mynd i fframio’r ymgyrch ar gyfer etholiad y Cynulliad.

“Mae pobol eisiau Llywodraeth yn y Cynulliad fydd yn meddalu ergyd y toriadau gan San Steffan,” meddai, gan gyfeirio at yr hyn mae’n ei alw’n “anniddigrwydd lleol” ynglŷn â phris tanwydd a’r cynnydd mewn treth ar werth.

Un o’i chryfderau fel ymgeisydd, medd Christine Gwyther, yw’r ffaith ei bod hi’n nabod yr ardal yn dda, wedi ei geni a’i magu yn Noc Penfro, a’i bod hi wedi cynrychioli’r sedd yn y gorffennol.

Bydd llawer yn cofio Christine Gwyther am y cyfnod byr ac anodd y bu’n Weinidog Amaeth llysieuol, ond mae’r cyn-AC yn dweud bod ei record lleol hi’n llawer hwy na hynny. “Fe wnes i ddelifro dros yr ardal,” meddai, wrth drafod ei chyfnod yn y Cynulliad.

Y tro hwn, mae Christine Gwyther yn “canolbwyntio ar swyddi,” meddai, “polisi sy’n taro tant ar draws yr etholaeth.”

Wrth drafod y gystadleuaeth agos yn etholaeth De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin â Golwg 360, doedd Christine Gwyther ddim yn cytuno â rhagolygon y bwcis – sy’n rhoi Plaid Cymru yn ail agos i Lafur.

“Mae’n syndod i fi cyn lleied o gefnogaeth sydd i Blaid Cymru,” meddai, “dw i wastad wedi ystyried mai’r Ceidwadwyr yw fy mhrif gystadleuwyr… maen nhw’n gwybod sut i gael eu pleidlais allan.”

Llafur ar y blaen i’r Ceidwadwyr, a Phlaid Cymru yn ôl yn y trydydd safle – dyna broffwydoliaeth Christine Gwyther. Ond, wrth gwrs, fe allai hynny fod yn dacteg glasurol – i roi mwy o sylw i’r blaid sy’n peri’r bygythiad lleia’.

Nerys Evans – Plaid Cymru

Mae pobol De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin eisiau gweld newid, “ond dydyn nhw ddim mo’yn mynd yn ôl at Lafur,” yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru, Nerys Evans.

Ar ôl treulio pedair blynedd yn cynrychioli’r Canolbarth yn y Cynulliad, bydd Nerys Evans yn ymladd am sedd etholaethol eleni – penderfyniad sydd, mae’n cyfaddef, “yn risg.”

Yn ôl Nerys Evans, mae ei hymgyrch “bositif, llawn syniadau,” yn canolbwyntio ar welliannau i’r economi ac addysg, wedi cael ymateb da ar lawr gwlad mor belled. Mae hi’n cael ei hystyried yn un o sêr ifanc y Blaid ac mae’r sedd yn un bwysig iddyn nhw.

“Mae’r pleidie eraill yn ceisio gwneud 5 Mai yn refferendwm ar bethau Prydeinig,” meddai, “ond mae’n materion ni wedi eu gwreiddio yn y cymunedau hyn.”

Mae’r gwleidydd, sy’n “byw a bod yn yr etholaeth,” yn dweud fod y gefnogaeth lleol yn ran pwysig iawn o effeithlondeb ymgyrch Plaid Cymru eleni.

Mae’n cyhuddo’r Ceidwadwyr yn lleol o “fwy neu lai roi lan” yn eu hymgyrch, tra bod Llafur yn dioddef, meddai, oherwydd “diffyg help yn lleol”.

Ond roedd yna amheuaeth y tro diwetha’ bod Plaid wedi gwneud yn well na’r disgwyl trwy gael eu gweld yn ffordd o rwystro’r Ceidwadwyr. Y peryg iddyn nhw yw y bydd Llafur yn cymryd y fantell honno.

Toriadau i wasanaethau gwylwyr y glannau yw un o’r materion y mae Nerys Evans wedi ymgyrchu drosto yn y misoedd diwethaf.

Mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiad o’r cynlluniau hyn gan San Steffan, ac i ddatganoli cyfrifoldebau o’r fath i’r Cynulliad. Yn ôl Nerys Evans, mae hyn yn rhan o draddodiad Plaid o “weithredu” ers iddyn nhw ddod i lywodraeth yn y Cynulliad bedair mlynedd yn ôl.

Mae Nerys Evans yn dweud fod pethau’n “argoeli’n dda” i Blaid Cymru yn Ne Penfro a Gorllewin Caerfyrddin eleni, ac mae’n rhoi Llafur yn ail, a’r Ceidwadwyr yn drydydd.

“Ma’ lot o bobol wedi rhoi arian i lawr arnon ni’n barod,” meddai, gan wfftio’r odds sydd yn ffafrio Llafur hyd yn hyn.

Angela Burns – Ceidwadwyr

“Dydw i ddim yn glynu at y llwyth, yn y ffordd y maen nhw,” meddai Angela Burns, sy’n dweud mai dyna sy’n ei gwneud hi’n wahanol i’r ymgeiswyr eraill yn Ne Penfro a Gorllewin Caerfyrddin eleni. Mae hynny hefyd yn ei phellhau oddi wrth weithgareddau’r Blaid Geidwadol yn y Llywodraeth yn Llundain.

Ar ôl ennill â mwyafrif o 98 pleidlais yn 2007, mae Angela Burns yn cydnabod bod yn rhaid ymladd i amddiffyn y “sioc o ganlyniad” a roddodd De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin yn nwylo’r Ceidwadwyr bedair blynedd yn ôl.

Ond yn ôl Angela Burns, mae digon o bobol yn yr etholaeth sy’n “dal i fod yn flin gyda Llafur,” ac yn “anesmwyth â holl sôn Plaid Cymru am annibyniaeth”. Ac mae’n hyderus y bydd y bobol hynny yn troi allan i’w chefnogi hi ar 5 Mai.

“Mae pobol yn gweld bod ’y nghonsyrn i yn tarddu o’r hyn sydd orau i’r etholaeth,” meddai, wrth sôn wrth Golwg 360 am y prif faterion sy’n ffurfio’i hymgyrch eleni, sef iechyd, cynllunio, swyddi ac addysg.

“Does dim amheuaeth fod pleidlais y Ceidwadwyr yn dal ei thir yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro,” meddai Angela Burns – gan ategu sylwadau Christine Gwyther am gefnogaeth i’r Ceidwadwyr. Mae yna reswm pam bod Plaid Cymru’n ceisio awgrymu bod y Ceidwadwyr yn ganolog eisoes wedi ildio’r sedd – oherwydd y gallai llwyddiant yno beryglu sedd eu harweinydd Nick Bourne ar restr ranbarthol yr ardal.

Ond mae’r polau piniwn cenedlaethol yn cefnogi’r sylwadau, gyda’r diweddaraf yn dangos fod y cynnydd yn y bleidlais i’r Ceidwadwyr yn eu rhoi nhw ar y blaen i Blaid Cymru.

Mae Angela Burns o’r farn fod clymblaid San Steffan wedi cael effaith fuddiol ar ei hymgyrch yn Ne Penfro a Gorllewin Caerfyrddin. “Rydw i wedi ’nghalonogi’n fawr,” meddai, “mae pobol yn sylweddoli fod yr economi mewn sefyllfa ofnadwy, ond nad ni achosodd hynny.”

Mae hi’n gweld y sedd yn aros yn nwylo’r Ceidwadwyr yn 2011, tra bod yr ail safle yn gystadleuaeth agos rhwng Plaid Cymru a Llafur – ac fe fyddai rhannu pleidlais y gwrthwynebwyr yn ei siwtio hi.

Canlyniadau Etholiad 2007

Angela Burns Ceidwadwyr 8,590 30.1%
Christine Gwyther Llafur 8,492 29.7%
John Dixon Plaid Cymru 8,340 29.2%
John Gossage Dems Rhydd 1,806 6.3%
Malcolm Calver Annibynnol 1,340 4.7%

Ymgeiswyr De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin, Etholiad 2011

Angela Burns Ceidwadwyr
Selwyn Runnett Democratiaid Rhyddfrydol
Christine Gwyther Llafur
Nerys Evans Plaid Cymru