Jonathan Edwards - cefnogi'r gwrthwynebwyr
Mae cynghorydd lleol wedi addo parhau i frwydro’n erbyn cynllun tai a fyddai’n dyblu pentre’ bach Cymraeg.

Ddoe oedd y diwrnod ola’ i bobol fynegi eu gwrthwynebiad i fwriad i godi tua 350 o dai ym Mhen-y-banc ger Rhydaman.

Dyw’r datblygiad ddim yn addas o gwbl i’r ardal, meddai Peter Cooper, un o’r ddau gynghorydd lleol sydd am wrthwynebu’r cynlluniau pan ddown nhw gerbron Cyngor Sir Gâr tua mis Mehefin.

“Does dim angen y tai yn yr ardal,” meddai wrth Golwg360. “Mae digon o dai ar werth nawr, rhai mewn stad ger y ffordd i mewn i’r safle.

“A ble bydd y plant yn mynd? Mae’r ysgolion lleol i gyd yn llawn. Fydd hyn yn dwblu maint y pentre’.”

Fe fyddai problemau hefyd gyda maint y ffyrdd lleol – mae’r pentre’ rhwng Rhydaman a Saron – ac fe fydda’r datblygiad yn creu pwysau ar wasanaethau lleol, meddai.

Effaith ar y Gymraeg

Yr effaith ar yr iaith Gymraeg yw un rheswm arall tros wrthwynebiad pobol leol sydd wedi cael cefnogaeth yr Aelod Seneddol lleol, Jonathan Edwards.

Roedd Peter Cooper a’i gyd gynghorydd John Edwards wedi cwrdd â’r datblygwyr, Swalloe Property Developments, tua blwyddyn yn ôl ond roedd y cwmni, meddai, yn mynnu bod angen y tai.

Mae ganddyn nhw eisoes ganiatâd i godi 150 o dai ond maen nhw bellach eisiau codi rhagor o dai, gyda rhai o’r rheiny’n llai.