Gweithredu cynharach - gorymdaith yr undebau ar 26 Mawrth (Gwefan y TUC)
Roedd yna alwad am streic gyffredinol gan weithwyr sector cyhoeddus wrth i undeb mwya’r athrawon bleidleisio o blaid gweithredu yn erbyn toriadau gwario Llywodraeth Prydain.
Roedd angen gweithredu eithriadol i gwrdd â sefyllfa eithriadol, meddai un athro wrth roi’r cynnig gerbron cynhadledd flynyddol yr NUT.
Fe alwodd Phillip Clarke, athro o dde-ddwyrain Lloegr, am streic gyffredinol undydd gan weithwyr sector cyhoeddus.
Fe benderfynodd y gynhadledd gefnogi’r cynnig sydd ychydig yn llai pendant na hynny, yn galw am “weithredu ar y cyd gan holl undebau’r sector cyhoeddus”.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Christine Blower, roedd y toriadau gwario’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn oedd wedi ei ddweud cyn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.
Roedd y bwlch mewn cyfleoedd addysg i blant o wahanol gefndiroedd yn lledu, meddai, ac fe fyddai hynny’n gwaethygu oherwydd y toriadau.