gwy
Carwyn Jones
Mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru’n dweud y byddai pleidlais drostyn nhw  ar Fai 5 yn anfon neges i Lywodraeth y Glymblaid yn Llundain tros bynciau fel gwasanaeth gwylwyr y glannau.

Bwriad Llywodraeth San Steffan i gau gorsafoedd y gwylwyr yn Aberdaugleddau a Chaergybi oedd prif destun ymgyrch Carwyn  Jones heddiw wrth iddo deithio o amgylch gorllewin Cymru.

Roedd hyd yn oed yn cyhuddo’r Llywodraeth o amseru cyfnod ymgynghori am y penderfyniad yn fwriadol i osgoi sylw a gwrthwynebiad.

Fe fydd hwnnw’n dod i ben ar 6 Mai y diwrnod ar ôl etholiadau’r Cynulliad – er nad yw’n rhan o gyfrifoldeb y corff ar hyn o bryd.

‘Byr ei olwg’

“Mae’r bwriad i gau’r gorsafoedd yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau’n benderfyniad ofnadwy o fyr ei olwg,” meddai Carwyn Jones. “Yn enwedig gyda’r ddwy orsaf nwy naturiol bellach yn gweithio’n llawn yn Aberdaugleddau.

“Trwy bleidleisio i Lafur ar 5 Mai, gall pleidleiswyr anfon neges i’r Llywodraeth Geidwadol yma bod gwell ffordd na hyn.”

Mae’r holl ymgeiswyr yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a Phenfro wedi cefnogi’r galwadau i gadw’r orsaf ac mae Plaid Cymru’n galw am ddatganoli’r gwasanaeth i gyd.