Iwan Huws
Mae Plaid Cymru wedi canolbwyntio ar gefnogi siopau bach wrth ymgyrchu yn un o’u seddi allweddol.

Fe fydd Iwan Huws, eu hymgeisydd yn sedd Aberconwy, yn ymgyrchu ynghanol Llandudno, sy’n ganolfan siopa bwysig yn y Gogledd.

Mae argymhellion Plaid Cymru’n cynnwys cynnal asesiadau annibynnol ar yr effaith ar siopau bach pan fydd cynlluniau ar gyfer datblygu archfarchnadoedd.

Maen nhw hefyd eisiau i fusnesau bach lleol gael cyfle am le mewn datblygiadau siopa newydd a datblygiadau tai sylweddol.

‘Canol trefi bywiog’

Y nod, yn ôl Iwan Huws, yw cael strategaeth genedlaethol a fydd yn rhoi pwysau ar gynghorau lleol i wella canol trefi.

“Mae gormod o ganol ein trefi wedi cael eu gadael i ddirywio o ganlyniad i orfod cystadlu efo datblygiadau siopa ar y cyrion.

“Mae’r Blaid yn credu fod sector manwerthu annibynnol cryf yn hanfodol er mwyn economïau lleol a chanol trefi bywiog, a bod hyn yn cyfrannu at iechyd busnesau eraill.”

Cefndir

Mae Iwan Huws yn amddiffyn sedd Plaid Cymru ar ôl i’r cyn AC Gareth Jones gyhoeddi ei fod yn ymddeol.

Y Ceidwadwr, Guto Bebb, sy’n dal y sedd ar lefel San Steffan ond mae disgwyl y gallai’r Blaid Lafur hefyd fod yn ennill pleidleisiau yno.