Barry Morgan
Mae Archesgob Cymru yn rhagweld y bydd perfformiad yr actor Michael Sheen, The Passion, ym Mhorth Talbot dros y Pasg yn cyffwrdd â phobol yr ardal yn enwedig bobol ifanc ac yn hwb i’r dref.
Fe fydd Barry Morgan yn darllen neges mewn gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair nos Sul yn rhan o basiant mawreddog o gwmpas y dref fydd yn dod i ben ar draeth Aberafan.
“Dw i’n credu ei fod e’n beth da, am bod Michael Sheen heb anghofio ei achau,” meddai wrth Golwg am yr actor fu’n chwarae rhan Tony Blair yn ffilm The Queen a David Frost yn Frost/Nixon.
“Dw i’n siwr bydd yn gadael ei ôl. Pan mae 1,000 o bobol yn cymryd rhan, a miloedd eraill yn edrych ymlaen, mae e’n bownd o gyffwrdd â rhai pobol.
“Efallai eu bod nhw just eisiau gweld Michael Sheen! Ond pwy a ŵyr – efallai bydd y ddrama yn mynd i gyffwrdd â nhw.
“Oherwydd y ffaith ei fod y tu allan, gydag actor mor enwog, ac am gyffwrdd â phobol ifanc hefyd.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 21 Ebrill