Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, sy’n dweud fod Llywodraeth San Steffan wedi trin Cymru’n annheg…
Ar y 5ed o Fai, mae gan Gymru’r gyfle i ethol llywodraeth newydd – un fydd yn cyflwyno tegwch, nid yn torri addewidion.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi trin Cymru’n annheg.
Fe wnaethom ni rybuddio bod y toriadau oedd yn cael eu cyflwyno yn rhy llym ac yn rhy gyflym – gan niweidio teuluoedd a busnesau ar draws Cymru.
Dyma pam, yn yr etholiad hwn, bydd Llafur Cymru yn cynnig ffordd arall i Gymru.
Mae’n gyfnod heriol, ond mae Llafur Cymru yn Sefyll Cornel Cymru ac yn arwain Cymru ymlaen trwy ddarparu gobaith ar gyfer y dyfodol. Gwerthoedd cydraddoldeb, cyfle a chyfiawnder cymdeithasol Llafur Cymru fydd yn llunio ein gweithredoedd mewn llywodraeth.
Mae gormod o’n pobl ifanc allan o waith, felly byddwn yn creu Cronfa Swyddi Cymru i roi gobaith i’r genhedlaeth nesaf.
Byddwn yn ei gwneud yn haws i bobl sy’n gweithio i weld eu meddyg pan fo angen ac yn cyflwyno gwiriadau iechyd blynyddol i bawb dros 50 oed fesul cam.
Byddwn yn cael mwy o arian i mewn i ddosbarthiadau ysgol ar draws Cymru.
Ac, er gwaetha cynlluniau’r Torïaid i leihau nifer swyddogion yr heddlu yng Nghymru, byddwn yn helpu i gadw’n cymunedau’n ddiogel trwy ddarparu 500 yn fwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol.
Cred Llafur Cymru fod ein plant yn haeddu gwell, dyma pam y byddwn yn gwella ymweliadau iechyd ac yn cynnig lleoedd meithrin am ddim.
Gyda Llafur, bydd presgripsiynau am ddim, teithio ar fysiau am ddim ar gyfer pensiynwyr, brecwast ysgol a llaeth yn yr ysgol ar gyfer plant o dan saith oed, i gyd yn ddiogel.
Dyma’r ffordd y bydd Llafur Cymru yn sefyll cornel Cymru. Gyda’n gilydd gallwn sefyll cornel Cymru.