Ed Miliband
Bydd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn ymgyrchu yng Nghymru heddiw.

Dyma’r ail waith i Nick Clegg alw draw, ar ôl ymweld â rhai o seddi targed y blaid ledled Cymru bron i bythefnos yn ôl.

Dyma ymweliad cyntaf Ed Miliband â Chymru wrth i’w blaid obeithio ennill mwyafrif clir yn y Senedd ar 5 Mai.

Bydd yn teithio i orllewin Cymru, gan gynnwys sedd agos Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, sydd yn frwydr agos rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr.

Dywedodd ymgeisydd y Blaid Lafur, Christine Gwyther, wrth Golwg 360 ddoe y byddai ymwelydd arbennig yn galw draw heddiw, ond nad oedd hi’n fodlon datgelu pwy.

Bydd Nick Clegg yn canolbwyntio ar seddi targed ei blaid yn ne’r wlad, gan gynnwys ardal Abertawe a Chasnewydd.

Fe fydd Plaid Cymru yn canolbwyntio ar eu haddewid i amddiffyn ysbytai lleol heddiw, tra bod y Ceidwadwyr yn ymgyrchu ar sail eu cynlluniau i adfer economi’r wlad.