Fe fydd y Tywysog William a Kate Middleton yn derbyn crisial yn “anrheg priodas gan bobol Cymru”.
Dywedodd swyddogion fod yr anrheg wedi ei gomisiynu ar y cyd gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r crisial unigryw wedi ei greu gan gwmni Welsh Royal Crystal o Raeadr Gwy.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y byddai’r crisial yn anrheg briodol gan bobol Cymru.
“Mae gan y ddau gysylltiad cryf iawn â’r wlad yma ac maen nhw wedi penderfynu ymgartrefu yma,” meddai.
“Rydw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar eu diwrnod mawr, ac y byddwn nhw’n hapus gyda’i gilydd.”
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ei fod wrth ei fodd â’r anrheg.
“Mae pobol Ynys Môn a gweddill Cymru wedi eu croesawu nhw,” meddai.
“Gobeithio y gwnânt nhw dderbyn yr anrheg yma fel arwydd o’n cariad ni tuag atyn nhw, a’n dymuniadau gorau tuag at y dyfodol.”
Dywedodd David Thomas o Welsh Royal Crystal ei fod yn “anrhydedd” cael creu “anrheg mor bwysig i’r pâr brenhinol”.