Mae timoedd achub fu’n chwilio Dyffryn Conwy am ddynes 72 oed oedd ar goll wedi dod o hyd i gorff.

Roedd tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen, Heddlu Gogledd Cymru, a gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio am Pat Howell, o Fochdre, Bae Colwyn, ers iddi ddiflannu ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i’r corff mewn ardal goediog ger Dolgarrog ddoe.

Roedd car Pat Howell wedi ei barcio ym mynwent Caerhun gerllaw. Cred yr achubwyr yw ei bod hi wedi llithro o lwybr troed.