Gwyl y Mardi Gras ar faes Mona
Mae un o drefnwyr Mardi Gras cyntaf Gogledd Cymru wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn hapus â’r ŵyl gyntaf o’i math yng ngogledd Cymru ynghyd â’r nifer wnaeth fynychu’r digwyddiad.

Yn ôl Keith Parry, roedd dros 600 o bobl wedi mynd i’r Mardi Gras penwythnos ar safle Sioe Mona, Sir Fôn. “Wnes i fwynhau fy hun ac fe wnaeth y pyntwyr i gyd,” meddai wrth Golwg360.

Ond, fe ddywedodd bod rhai problemau wedi codi gyda chawodydd gwersyllwyr  a’r system sain yn y gigs.

“Doedd dim cawodydd i’r rhai oedd yn campio gan nad oedden nhw wedi cyrraedd ar amser,” meddai.

“Mae’n debyg bod rhywbeth o’i le â system sain y bandiau hefyd,” meddai gan ddweud fod “un neu ddau wedi dweud bod rhai bandiau nos Sadwrn wedi cerdded allan” dros broblemau â’r system.

Protestio

Fe ddywedodd ei fod yn falch â’r ddarpariaeth ddiogelwch wrth ystyried y protestio dydd Gwener a Sadwrn. “Oherwydd lle’r oedden nhw’n sefyll – doedden nhw ddim yn cael cyfle i siarad gyda phobl – roedden nhw’n eithaf distaw,” meddai.

Roedd aelodau o grŵp Christian Voice, Caerfyrddin yn picedu’r digwyddiad ynghyd ag aelodau o rhai Eglwysi lleol, gan gynnwys Eglwys Bentecostaidd Elim, Caergybi ac Eglwys Oasis ym Miwmares.

Eisoes, roedd Stephen Green, Cyfarwyddwr grwp protest Christian Voice wedi dweud wrth Golwg360 dros y penwythnos y byddai’r grŵp yn “gweddïo y bydd hwn y digwyddiad olaf o’i fath” ar yr Ynys.

“Mae’n glir o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud nad yw safbwynt Steven Green ddim yn cyd-fynd a rhan fwyaf o Gristnogion, yn fy marn i dyw ei frand arbennig ef o gasineb ddim yn Gristnogol iawn o gwbl,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr y mudiad Stonewall Cymru wrth Golwg360.   

Trefnu gŵyl arall

Fe ddywedodd Keith Parry ei fod yn bwriadu “sefydlu pwyllgor” i drefnu gŵyl y flwyddyn nesaf mewn tair wythnos.

“Yn sicr, mi fyddwn ni’n cynnal gŵyl arall. Roeddwn i yn eithaf hapus gyda phob dim y tu allan,”  meddai.

Fe ddywedodd fod gŵyl eleni’n gyfle i ‘ddysgu’ ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf.

 “Dydw i erioed wedi gwneud rhywbeth mor fawr â hyn o ‘r blaen. Ond, ’dw i’n weddol hapus ac rydan ni wedi gwneud dipyn o gannoedd mewn elw hefyd, fydd yn mynd at ŵyl flwyddyn nesaf,” meddai.