Ffion Wyn Roberts

Mae gweithiwr ffatri 54 oed o Borthmadog wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio Ffion Wyn Roberts.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon wrth Iestyn Davies y bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 25 mlynedd o dan glo.

Roedd y rheithgor yn gynharach wedi dyfarnu o fwyafrif o 10 i 2 fod Iestyn Davies yn euog. Fe fuon nhw wrthi’n trafod am bron i wythnos cyn dod i’r penderfyniad.

Roedd y gweithiwr ffatri wlân wedi gwadu iddo lofruddio’r ferch 22 oed o Borthmadog flwyddyn yn ôl.

Cafwyd hyd i gorff Ffion Wyn Roberts ei ddarganfod mewn ffos heb fod ymhell o’i chartref ar 10 Ebrill y llynedd.