Edwina Hart
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o fynd ati’n fwriadol i godi bwganod wrth ddadlau y byddai mwyafrif i Lafur yn etholiad y Cynulliad yn peryglu dyfodol ysbytai llai.
Roedd ymgeiswyr Plaid Cymru yn Aberconwy a Llanelli wedi honni hyn ar sail y ffaith nad oedd ymrwymiad pendant i gadw ysbytai lleol ym maniffesto Llafur.
“Bedair blynedd yn ôl, rhoes Plaid Cymru stop ar raglen Llafur o gau ysbytai, gan arbed llawer o’n hysbytai,” meddai Helen Mary Jones, llefarydd y Blaid ar iechyd a’r ymgeisydd dros Lanelli.
“Nawr mae Llafur unwaith eto yn gofyn am i bobl Cymru roi mwyafrif iddyn nhw yn y Cynulliad – a fyddai’n caniatáu iddynt atgyfodi eu cynllun o gau ysbytai.”
Dywedodd Iwan Huws, ymgeisydd Plaid Cymru Aberconwy, hefyd y buasai mwyafrif i Lafur yn y Cynulliad yn rhoi rhwydd hynt i’r blaid weithredu eu cynllun gwreiddiol a chau ysbyty Llandudno.
“Mae’r ffaith fod Llafur yn gwrthod ymrwymo i gadw Ysbytai Dosbarth Cyffredinol ar agor yn rhybudd plaen i bobl Aberconwy,” meddai. “Un ffordd yn unig sydd o sicrhau dyfodol ein hysbyty – a hynny yw trwy ethol AC Plaid Cymru.”
‘Ffolineb’
Ond mae Edwina Hart, y Gweinidog Iechyd Llafur dros y pedair blynedd ddiwethaf, yn cyhuddo Plaid Cymru o godi bwganod mewn “ffordd gwbl warthus”.
“Maen nhw’n gwybod nad oes unrhyw gynlluniau o gwbl i gau Ysbyty Llandudno – i’r gwrthwyneb yn llwyr,” meddai. “Mae Llywodraeth y Cynulliad o dan arweiniad Llafur wedi buddsoddi miliynau yn yr ysbyty yma ac mewn ysbytai ardal eraill ledled Cymru ac mae’r syniad y bydden ni’n cau Llandudno wrth i’r gwelliannau gael eu gwneud yn ffolineb.”
A dywedodd Eifion Williams, ymgeisydd Llafur Aberconwy:
“Os ydych chi’n dilyn rhesymeg Plaid Cymru, rydym yn cynllunio cael gwared ar bopeth yng Nghymru nad ydym yn eu crybwyll yn ein maniffesto.
“Dydan ni ddim yn sôn am y caffi ar ben yr Wyddfa yn ein maniffesto – fyddan nhw’n dweud ein bod ni’n cau hwnnw nesaf?
“Gwleidydda budr o’r math gwaethaf ydi hyn a dylai’r rhai sy’n gyfrifol ymddiheuro i staff yr ysbyty.”