Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad
Mae’r Cynulliad wedi trefnu cyfleoedd i bobl Cymru ysgrifennu negeseuon yn llongyfarch y Tywysog William a Catherine Middleton ar eu priodas ar 29 Ebrill.

Bydd llyfrau negeseuon yn agor heddiw ac fe fyddan nhw ar gael tan 6 Mai yn y Senedd yng Nghaerdydd ac yn swyddfeydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd, Cyffordd Llandudno, Aberystwyth a Merthyr Tudful.

“Gan fod y Tywysog William a Catherine Middleton yn byw ar Ynys Môn, ac y byddant yn dechrau eu bywyd priodasol yma, mae’n briodol iawn bod gan bobl Cymru y cyfle hwn i ddymuno’n dda iddynt yn bersonol,” meddai Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas.

Ac meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Rwy’n siŵr y bydd llawer o bobl ar draws Cymru am longyfarch y cwpl Brenhinol ar eu priodas. Dyma ffordd unigryw i Gymru nodi’r achlysur hanesyddol hwn. Caiff y llyfrau eu defnyddio wedyn i greu cyfrol briodol i roi i’r pâr priod ar ôl y briodas.”