Lowri Morgan

Cyfres sy’n dilyn ras epig yn jyngl yr Amazon yw enillydd un o wobrau pwysicaf yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni yn Stornoway, Ynys Lewis, yr Alban.

Enillodd Ras yn Erbyn Amser, sy’n dilyn ymdrechion yr athletwraig a’r cyflwynydd Lowri Morgan, y wobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ – gwobr sy’n cael ei rhoi i raglen deledu neu ffilm o ansawdd uchel sydd yn llwyr neu’n sylweddol mewn iaith Geltaidd.

Yn gynhyrchiad gan gwmni P.O.P.1 ar gyfer S4C, mae’r gyfres bedair rhan yn dilyn Lowri yn rhedeg Marathon y Jyngl yn yr Amazon, ras anodda’r byd. 

Mae’r gyfres, a gafodd ei darlledu ddechrau 2010 yn fuan ar ôl i Lowri gwblhau’r marathon, yn ei dilyn yn paratoi, ymarfer ac yn rhedeg y ras 222 cilomedr saith niwrnod yng ngwres crasboeth ac amgylchiadau anodd jyngl yr Amazon.

Ers cwblhau marathon y jyngl mae’r athletwraig 35 mlwydd oed, sy’n wreiddiol o Abertawe ac nawr  yn byw yng Nghaerdydd, wedi cwblhau sialens rhedeg fawr arall, y Ras 6633 Ultra yn yr Arctig.

Bu camerâu cwmni P.O.P.1  yn dilyn y ras hon hefyd ac mae’r  ail gyfres o Ras yn Erbyn Amser, newydd ddod i ben ar S4C.

Mae’r llwyddiant hwn yn golygu bod S4C wedi cipio tair gwobr yn yr ŵyl eleni.