Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal eu gigs swyddogol ym Maes B
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn “siomedig” na fydd Bryn Fôn yn chwarae gig ym Maes B eleni.
Gall Golwg360 ddatgelu fod y canwr poblogaidd yn chwarae mewn gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ’Steddfod Wrecsam – er nad yw’r Gymdeithas wedi cyhoeddi’r arlwy yn swyddogol eto.
Mi fydd peidio â chael Bryn Fôn yn rhan o arlwy Maes B eleni yn glec i goffrau’r Eisteddofd Genedlaethol.
Ers blynyddoedd mae Bryn Fôn a’i fand wedi chwarae ar benwythnos ola’r ‘Steddfod ar safle Maes B, gan ddenu dros 1,000 i’w wylio yn gyson.
Ac mae’r Prif Weithredwr yn cydnabod ei bod hi’n “siomedig” nad yw Bryn Fôn yn gallu cyfrannu eleni ond “fod rhaid i rywun dderbyn hynny”.
“Mae Bryn Fôn wedi chwarae i’r Eisteddfod ers nifer sylweddol o flynyddoedd – am wyth i ddeg o flynyddoedd,” meddai Elfed Roberts.
“Mae’n bechod. Mae Bryn Fôn wedi bod yn dda iawn hefo ni – a ninnau’ hefo fo,” meddai Elfed Roberts cyn dweud bod y canwr hefyd yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad Bara Caws yn yr Eisteddfod.
“Mae’n anodd iddo wneud popeth…bechod – ond dw i’n siŵr y daw cyfle eto,” meddai Elfed Roberts.
Cymdeithas v Maes B
Bydd gigs Cymdeithas yr Iaith adeg ‘Steddfod Wrecsam yn cael eu cynnal yn un o brif glybiau nos yr ardal – Gorsaf Ganolog Wrecsam, sy’n dal o leiaf 600 o bobl.
Y llynedd roedd y Gymdeithas wedi addo trefnu gigs amgen mewn canolfannau bychain oedd yn dal llai na 150 o bobol, dan drefniant lle’r oeddan nhw a’r Eisteddfod yn cyd-drefnu gigs Maes B.
“Mae’r ffaith bod y Gymdeithas mewn lleoliad sy’n dal cannoedd hefyd yn broblem i mi. Mi fydd rhaid asesu’r effaith y bydd hynny’n ei gael,” meddai Elfed Roberts.
Bryn Fôn – yr uchafbwynt
Fe ddywedodd Sara Angharad Roberts o Gaernarfon mai gig “Bryn Fôn yw noson orau’r Eisteddfod bob blwyddyn”.
“Dw i wedi clywed pobl ifanc yn ardal Dyffryn Nantlle yn dweud bod dim ots ganddyn nhw os ydyn nhw’n methu’r Eisteddfod eleni gan nad ydi Bryn Fôn yno.
“Mae o’n ergyd mawr i Faes B.
“Mae gan Bryn Fôn gefnogwyr ar draws Cymru,” ychwanegodd.
Maes B
Fe fydd gigs Maes B eleni’n cael eu cynnal ar Gampws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Bydd dau lwyfan ar y safle ac amrywiaeth o gerddoriaeth.
Y Niwl fydd yn agor Maes B, gan lwyddo i berfformio’n Wrecsam cyn ail-ymuno gyda Gruff Rhys ar daith ryngwladol. Bydd Dau Cefn, Yucatan a Land of Bingo hefyd yn ymddangos yn Undeb y Myfyrwyr.
Nos Lun a nos Fawrth yw nosweithiau Brwydr y Bandiau. Bydd nifer o fandiau o bob cwr o Gymru’n cystadlu gyda slot ym Maes B ar y nos Sadwrn olaf yn rhan o’r wobr. Bydd Y Cyfoes, a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth y llynedd ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, yn perfformio ar nos Lun, a Breichiau Hir ar y nos Fawrth.
O nos Fercher ymlaen, bydd y ddau lwyfan yn cael eu defnyddio wrth i Maes B brysuro, gyda Meic Stevens, Lleuwen a Gildas yn ymddangos yn Undeb y Myfyrwyr ac Elin Fflur, Al Lewis Band ac Yr Angen yn Neuadd William Aston.
Yr Ods, Y Bandana ac Y Trydan fydd yn Neuadd William Aston nos Iau, gyda Plant Duw, Jen Jeniro a Sensegur yn Undeb y Myfyrwyr.
Mae’r penwythnos ola’ yn cychwyn gydag Acid Casuals a’u set DJ yn yr Undeb gyda Plyci, Crash Disco!, Cloud4Mations a DJs Electroneg 1000 nos Wener, tra bod Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms a Catrin Herbert yn Neuadd William Aston.
Bydd Maes B Eisteddfod Wrecsam a’r Fro yn cloi gyda’r Sibrydion, Masters in France a Violas yn Neuadd William Aston a Colorama, Huw M a Trwbador yn Undeb y Myfyrwyr.
Fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi rhestr eu gigs ar Fai 13.