Mae arbenigwr gwleidyddol yn darogan y bydd Llafur yn ennill 31 sedd – digon i ffurfio llywodraeth fwyafrifol o drwch blewyn – yn etholiad y Cynulliad ar Fai 5.

Mae’r dadansoddwr etholiadol Denis Balsom yn dweud hyn ar sail canlyniadau arolwg barn diweddara’r ymgyrch sy’n cadarnhau cryfder Llafur.

Mae’r arolwg, a wnaed gan YouGov i ITV Cymru, yn dangos cefnogaeth Llafur ar 49% – 2% i fyny o gymharu â phythefnos yn ôl, y Torïaid yn ail ar 20%, Plaid Cymru’n drydydd ar 17% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%.

Mae’r canlyniadau’n gyson â’r hyn y mae pob arolwg barn arall tebyg wedi ei ddangos dros yr wythnosau diwethaf.

O ddadansoddi holl ffigurau’r arolwg, barn Dr Balsom yw mai’r canlyniad terfynol tebygol o safbwynt nifer y seddau fyddai:

Llafur 31 (5 yn fwy nag yn etholiad 2007), Torïaid 13 (1 yn fwy), Plaid Cymru 11 (4 yn llai) a’r Democratiaid Rhyddfrydol 5 (1 yn llai).

“Mae’n ogwydd cryf iawn i Lafur, ond a fydd hyn yn digwydd ar ddiwrnod yr etholiad, pwy a ŵyr?” meddai Dr Balsom.

Cafodd 1,018 o bobl eu holi rhwng dydd Mawrth a dydd Iau ar gyfer yr arolwg.